Wrecsam i groesawu Chelsea yng Nghwpan yr FA

Josh Windass (dde) sgoriodd unig gôl y gêm yn erbyn Ipswich i sicrhau lle Wrecsam yn y bumed rownd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Wrecsam yn wynebu Chelsea ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr.
Fe fydd y Dreigiau'n croesawu'r cewri o Uwch Gynghrair Lloegr ar benwythnos 7 Mawrth - gyda'r union ddyddiad eto i'w gadarnhau.
Sicrhaodd y Dreigiau eu lle yn yr het ar ôl trechu Ipswich Town o gôl i ddim ar y Cae Ras nos Wener.
Dyma'r tro cyntaf i Wrecsam gyrraedd y bumed rownd ers bron i 30 mlynedd.
Brian Flynn oedd y rheolwr y tro diwethaf iddyn nhw gyrraedd y pwynt yma'n y gystadleuaeth ym mis Chwefror 1997 - pan enillon nhw o 3-1 yn erbyn Birmingham City.
Wrecsam yw'r unig dîm o Gymru sydd ar ôl yn y gystadleuaeth ar ôl i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd golli mewn rowndiau blaenorol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.