Anrhydeddu D Ben Rees am gyfraniad oes i fyd llyfrau

D Ben Rees yn derbyn Gwobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2025 am gyfraniad oes gyda'i wraig Meinwen
- Cyhoeddwyd
Y Parchedig Ddr D Ben Rees, Lerpwl sydd wedi ennill gwobr Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru 2025 am gyfraniad oes i fyd llyfrau a llenyddiaeth Cymru.
Bob blwyddyn mae'r tlws yn cael ei gyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i'r byd llyfrau yng Nghymru.
"Heb os," medd Aled Davies, Cadeirydd y Cwlwm, "mae Ben Rees yn llawn haeddu'r wobr wedi iddo gyhoeddi dros gant o lyfrau ac hefyd erthyglau ac ysgrifau i bob math o gylchgronau crefyddol a hanesyddol."
Un o Landdewi Brefi yng Ngheredigion yw D Ben Rees yn wreiddiol ond mae ei gysylltiad â Lerpwl yn fwy adnabyddus wedi iddo dreulio dros hanner canrif fel gweinidog yn eglwys Gymraeg Heathfield Road.
Sefydlodd ei wasg, Cyhoeddiadau Modern Cyf., yn 1963, gan weithredu o Abercynon yng Nghwm Cynon i ddechrau cyn symud i Lerpwl yn 1968.
Dros y penwythnos fe dderbyniodd y wobr yn ei gartref yn Lerpwl ymhlith teulu a ffrindiau.
Wrth siarad ar rifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg dywedodd bod ennill y wobr yn "golygu llawer iawn iddo" a'i fod wedi "mwynhau ysgrifennu a golygu dros 120 o gyfrolau - y mwyafrif yn Gymraeg".
"Y gyfrinach i allu ysgrifennu cymaint," ychwanegodd, "yw cadw llyfrau nodiadau hynod fanwl ac yna mae popeth yna pan mae angen ysgrifennu'r penodau."

Fe symudodd D Ben Rees i fod yn weinidog yn Lerpwl yn 1968
O ran ei waith fel awdur a chyhoeddwr mae D Ben Rees wedi gweithio mewn pum maes am gyfnod o dros 60 mlynedd - sef heddwch a heddychiaeth, diwylliant Cymru a hanes Cymry amlwg, hanes cymuned Gymraeg Lerpwl a glannau Mersi, diwinyddiaeth a hanes cenhadaeth fyd-eang a defosiwn a gweddïau.
Ymhlith ei lyfrau mae bywgraffiad Gandhi, cyfrol ar yr heddychwr Henry Richard a phedwar llyfr ar John Calfin a Chalfiniaeth.
Newydd ei chyhoeddi mae cyfrol arbennig o'i waith ar Gymry Lerpwl - un o nifer o gyfrolau ar hanes y ddinas.
Gydag yntau wedi sefyll mewn Etholiad Cyffredinol ar ran y Blaid Lafur yn y 1970au dyw hi ddim yn syndod ei fod wedi llunio cyfrolau ar aelodau amlwg o'r blaid yng Nghymru - yn eu plith Cledwyn Hughes, Aneurin Bevan a James Griffiths.
"Rwy'n credu mai'r cyfrolau Cymraeg a Saesneg i Mabon a Jim Griffiths rydw i fwya' balch ohonyn nhw ac hefyd yr un Dr Owen Thomas, tad-cu Saunders Lewis - fe gafodd y gyfrol wobr Ellis Griffiths gan Brifysgol Cymru," ychwanegodd.
"Rwy'n falch i ddweud er bo fi wedi cael gwaeledd yn ddiweddar bo fi'n dal i ysgrifennu.
"Ar hyn o bryd rwy'n ysgrifennu cyfrol ar sosialwyr Cristnogol o bob plaid a hefyd dwi' wrthi yn ysgrifennu cyfrol ar y bobl a adeiladodd Lerpwl.
"Dwin lwcus bod fy meddwl dal yn chwim, rhaid cadw'n brysur - fyddai byth yn rhy hen i ysgrifennu."
Mae cyfweliad D Ben Rees i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.