Llofruddiaeth Llanelwy: Dyn yn ymddangos yn Llys y Goron

Harry TurnerFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Harry Turner wedi dweud y bydd colled fawr ar ei ôl wedi ei farwolaeth yn Llanelwy Ddydd Nadolig

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 66 oed o Lanelwy wedi ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar gyhuddiad o lofruddio dyn arall o'r ddinas Ddydd Nadolig.

Mae James Hughes, a ymddangosodd yn y llys trwy gyswllt fideo, wedi ei gyhuddo o lofruddio Harold David Turner, oedd yn 68 oed.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar y Stryd Fawr, Llanelwy ychydig wedi 12:00 ar 25 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch yno.

Cafodd Mr Turner ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach yr un diwrnod.

Mewn teyrnged iddo dywedodd ei deulu y bydd yn cael ei golli'n fawr.

Fflatiau'r Hen Balas, Llanelwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth gan unrhyw un a oedd yn ardal Fflatiau'r Hen Balas ar Stryd Fawr Llanelwy cyn 12:00 Ddydd Nadolig

Yn ystod y gwrandawiad llys ddydd Mercher, bu James Hughes yn dal tywel o gwmpas ei gorff.

Clywodd y llys ei fod yn teimlo'n sâl ond ei fod yn iawn i barhau gyda'r gwrandawiad.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrtho y bydd yn ymddangos eto gerbron y llys ar 6 Mawrth ar gyfer gwrandawiad ple, ac mae disgwyl i'r achos llawn ddechrau ar 22 Mehefin 2026.

Mae'r achos wedi'i gyfeirio at y Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ond dyw Heddlu Gogledd Cymru heb gadarnhau pam.