Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi marwolaeth ar ddydd Nadolig

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar Stryd Fawr Llanelwy ddydd Iau yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 66 oed wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio dyn 68 oed yn Llanelwy ar ddydd Nadolig.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo ar Stryd Fawr y dref toc cyn 12:00 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch.
Cafodd Harry Turner, 68 oed, ei gludo i'r ysbyty lle bu farw'n ddiweddarach, meddai Heddlu'r Gogledd.
Mae James Ronald Hughes, o Stryd Fawr Llanelwy, wedi'i gyhuddo o lofruddiaeth.

Dywedodd teulu Mr Turner y byddai colled fawr ar ei ôl
Mewn gwrandawiad byr yn Llyn Ynadon Llandudno dydd Llun, fe wnaeth Mr Hughes siarad i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.
Dywedodd y barnwr Gwyn Jones y byddai Mr Hughes yn parhau yn y ddalfa cyn i wrandawiad drwy gyswllt fideo gael ei gynnal yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 31 Rhagfyr.
Mae Heddlu'r Gogledd yn dweud fod y mater wedi cael ei gyfeirio at Y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Dydy'r llu heb esbonio pam fod y mater wedi cael ei gyfeirio at yr IOPC.
'Colled fawr ar ei ôl'
Mewn teyrnged brynhawn Llun, dywedodd teulu Mr Turner: "Roedd gan Harry Turner bump o frodyr a chwiorydd.
"Pan adawodd yr ysgol fe ymunodd â'r Llynges cyn gweithio yn Llundain, Gweriniaeth Iwerddon a'i dref enedigol, Y Rhyl.
"Bydd colled fawr ar ei ôl."

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Fflatiau'r Hen Balas i gysylltu â nhw
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Eleri Thomas: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn ardal Fflatiau'r Hen Balas ac a welodd neu a glywodd unrhyw beth cyn 12pm i gysylltu â'r heddlu.
"Mae ymchwiliadau'n parhau ac mae presenoldeb yr heddlu yn parhau yn yr ardal er mwyn tawelu meddyliau.
"Mae'n ymddangos fel bod y digwyddiad yn un ynysig ac nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r mater.
"Gan fod cyhuddiadau bellach wedi'u hawdurdodi yn yr ymchwiliad hwn, hoffwn hefyd bwysleisio na ddylid rhannu unrhyw beth ar y we a allai effeithio achosion llys yn y dyfodol neu danseilio'r broses cyfiawnder troseddol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.