Cais cynllunio canolfan antur Bae Ceibwr wedi'i dynnu'n ôl

Bae Ceibwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bae Ceibwr wedi ei leoli o fewn ardal gadwraeth arbennig

  • Cyhoeddwyd

Mae cais cynllunio am ganolfan antur arfaethedig ger Bae Ceibwr wedi cael ei dynnu'n ôl, yn dilyn cyfnod o wrthdaro cyfreithiol a phryderon am yr effaith bosib ar fywyd gwyllt.

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cadarnhau bod yr ymgeisydd - cwmni Adventure Beyond - wedi penderfynu na fyddan nhw'n cymryd unrhyw gamau pellach ar y cais.

Daw hyn ar ôl i lys ddiddymu'r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer y datblygiad ym mis Medi y llynedd, yn sgil diffyg gwybodaeth lawn am effaith y cynllun ar fywyd gwyllt.

Roedd y cynlluniau ar gyfer y ganolfan antur yn Nhrewyddel wedi bod yn destun dadl ers sawl blwyddyn oherwydd pryderon am weithgareddau fel arforgampau ger ardal gadwraeth arbennig Bae Ceibwr.

Mae'r ganolfan eisoes wedi dechrau cael ei hadeiladu.

Protestwyr gan ddal baner yn nodi 'Na i Hwb Antur, Ie i natur'.
Disgrifiad o’r llun,

Mae grwpiau cadwraeth wedi gwrthwynebu'r cynlluniau o'r cychwyn

Roedd grŵp Wild Justice wedi dadlau y gallai'r ganolfan arwain at gynnydd mewn gweithgareddau mewn ardal sydd wedi'i dynodi'n ardal gadwraeth arbennig ac yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mae Bae Ceibwr yn gartref i adar sy'n nythu ar y clogwyni, gan gynnwys gwylogod, brain coesgoch ac adar drycin y graig.

Roedd awdurdod y parc cenedlaethol wedi cymeradwyo'r cynlluniau'n wreiddiol, cyn i'r Uchel Lys ddiddymu'r penderfyniad hwnnw.

Daeth y dyfarniad ar ôl gwrandawiad yn Hwlffordd ym mis Mehefin, lle penderfynodd barnwr nad oedd arolwg o adar bridio wedi cael ei rannu'n llawn gyda'r pwyllgor cynllunio.

Penderfynodd y barnwr hefyd nad oedd digon o wybodaeth wedi'i chyflwyno am effaith bosib gweithgareddau ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Aberarth-Carreg Wylan.

Cadarnhaodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ddydd Mercher fod y cais cynllunio bellach wedi cael ei dynnu'n ôl, ac na fyddan nhw felly yn "cymryd unrhyw gamau pellach ar y cais ac ni fydd yn bwrw ymlaen i wneud penderfyniad".

Dywedodd awdurdod y parc bod Adventure Beyond wedi nodi y gallan nhw gyflwyno cais newydd neu amgen yn y dyfodol.

Byddai unrhyw gais o'r fath yn cael ei drin fel cais ar wahân gan yr awdurdod.

"Os cyflwynir cais newydd, bydd y partïon perthnasol yn cael gwybod ac yn cael cyfle i roi sylwadau," meddai llefarydd.

Mae Cyngor Penfro wedi rhoi tua £500,000 tuag at y prosiect trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Dywedodd llefarydd eu bod yn "ymwybodol fod y cais cynllunio wedi'i dynnu'n ôl, a byddwn yn ystyried a oes gan hyn oblygiadau i'r penderfyniad ariannu".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.