Carcharu dyn o Geredigion am 35 mlynedd am geisio lladd ei fabi ei hun

Roedd Rhydian Lynne Rhys Jamieson, sy'n cael ei alw yn Rhys, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o geisio llofruddio
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys manylion allai beri gofid.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am 35 mlynedd am geisio lladd ei fabi ei hun mewn tŷ yng Ngheredigion.
Cafodd Rhydian Lynne Rhys Jamieson, sy'n cael ei alw yn Rhys, ei ddedfrydu ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o geisio llofruddio mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Ebrill y llynedd.
Ddydd Llun, clywodd Llys y Goron Abertawe fod Jamieson, 28, o Gwm-cou, ger Castellnewydd Emlyn, wedi colli ei bwyll a thaflu'r babi at deledu, cyn gadael y baban ar ei ben ei hun ar ôl y digwyddiad.
Clywodd y llys fod y ferch fach, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi'i chanfod yn gorwedd wyneb i lawr o dan gwilt gwely (duvet) gydag anafiadau difrifol.
Bydd angen gofal ychwanegol am weddill ei bywyd.
Wrth ei garcharu, dywedodd y barnwr bod Jamieson yn "llwfrgi", a bod yr hyn a wnaeth yn "weithred gwbl erchyll er eich lles eich hun".
Nid oedd Jamieson yn bresennol ar gyfer y ddedfryd ac fe wrthododd y cyhuddiadau, gan ddweud iddo gael ei "gyhuddo'n anghywir" a'i fod eisoes wedi dioddef "digon o boen yn feddyliol".
Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio baban
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2025
Dyn, 28, yn cyfaddef ceisio llofruddio baban
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2025
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ym mhentref Y Ferwig tua 22:15 ar 15 Ionawr 2025.
Anfonodd Jamieson neges destun at fam y babi ar noson y digwyddiad yn dweud: "Mae'n ddrwg gen i am yr hyn rydw i wedi'i wneud."
Anfonodd negeseuon at ffrindiau hefyd – yn eu plith negeseuon yn dweud: "Rydw i'n ofnus. Rydw i'n meddwl fy mod i wedi lladd rhywun," a "Rydw i'n mynd i fod ar y newyddion".
Dywedodd ei fod wedi colli ei bwyll ac wedi taflu'r babi at deledu.
Cafwyd hyd i'r baban ar ei ben ei hun gan y teulu ar ôl i'r negeseuon testun gael eu hanfon at y fam.
Clywodd y llys fod gan y ferch fach anaf ar ei phen a chleisiau ar ei hwyneb.
Cafodd y baban ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, a dangosodd sgan CT dystiolaeth o waedu ar yr ymennydd, toriad i ochr chwith y penglog ynghyd â chleisiau helaeth.
Clywodd y llys y bydd angen gofal a chefnogaeth ar y baban gydol ei oes.
'Bywyd y teulu wedi newid am byth'
Mewn datganiad, dywedodd mam y baban, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, fod bywyd ei theulu wedi newid am byth.
"Rwyt yn ddim mwy na pherson maleisus a ffiaidd," meddai, gan gyfeirio at Jamieson, nad oedd yn bresennol yn y llys i gael ei ddedfrydu.
"Bydd yr effaith ar fy mhlentyn yn para am weddill fy oes.
"Fydda i byth yn deall beth oedd yn dy feddwl wrth wneud yr hyn a wnest di. Dyw e ddim ots cyfnod pa mor hir gei di [yn y carchar] fydd e byth yn ddigon."
Gwrthododd Jamieson fynychu'r gwrandawiad ddydd Llun, gan ddweud wrth y llys ei fod wedi cael ei "gyhuddo'n anghywir" a'i fod eisoes wedi "dioddef digon o boen yn feddyliol".
Er iddo wneud cais i ddiddymu ei ble y llynedd, fe wrthododd y Barnwr Paul Thomas KC roi caniatâd.
Ddydd Llun, galwodd y barnwr Jamieson yn "llwfrgi" a oedd wedi'i "feddiannu gan hunan dosturi".
"Fe dafloch chi'r babi gydag ergyd nerthol at y teledu. Fe gawsoch bwl o dymer nad oedd modd ei reoli, mae'n debyg oherwydd bod y babi ond yn crio, fel mae babanod yn ei wneud," ychwanegodd.
"Roedd yn amlwg bod angen sylw meddygol brys ar y babi... Wnaethoch chi ddim hyd yn oed trafferthu gweld a oedd y babi'n fyw.
"Roedd hynny, yn fy marn i, yn weithred gwbl erchyll er eich lles eich hun."
Dywedodd y Barnwr Thomas na fyddai Jamieson yn cael mynediad heb oruchwyliaeth at blant hyd yn oed ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Bydd yn rhaid i Jamieson dreulio dau draean o'r ddedfryd 35 mlynedd dan glo cyn cael ei ystyried ar gyfer ei ryddhau.
Dywedodd dirprwy gyfarwyddwr NSPCC Cymru, Carl Harris fod y babi wedi dioddef "creulondeb a thrais syfrdanol gan ei thad - yr union berson a ddylai fod wedi bod yn ei hamddiffyn rhag niwed".