Ffordd brysur yng Nghaerdydd wedi ailagor ar ôl gwrthdrawiad

Digwyddodd y gwrthdrawiad ger ardal Parc Fictoria nos fercher
- Cyhoeddwyd
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i wrthdrawiad difrifol ar ffordd brysur yng Nghaerdydd nos Fercher.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar ar FforddHeol Ddwyreiniol y Bont-faen yn ardal Parc Fictoria tua 5pm
Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod y ffordd rhwng cyffyrdd Ffordd Aldsworth a Stryd Grosvenor wedi ailagor.
Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf mae o leiaf ddau gar wedi gwrthdaro, wedi mynd ar y palmant a tharo blaen bwyty ger arhosfan bws.
Roedd dwy injan dân ar y safle ac yn ôl adroddiadau fe gyrhaeddodd yr ambiwlans awyr y safle am 16:50 ond yna fe adawodd cyn glanio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.