A fydd dronau'n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Ngheredigion?

DrônFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gallai dronau gael eu defnyddio yng Ngheredigion i geisio atal tor cyfraith yn y sir

  • Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd cerbydau awyr di-griw, neu ddronau, yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â phroblemau gwrthgymdeithasol yng nghanolbarth Cymru, fel rhan o gynlluniau i atal troseddu.

Mae Cyngor Ceredigion wedi llwyddo i gael y fflyd o chwech o ddronau, trwy Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu, fel rhan o raglen grant i leihau trosedd ac anrhefn.

Defnydd posib arall o'r dronau yw casglu tystiolaeth am ddigwyddiadau llygredd a thipio anghyfreithlon, gwaredu carcasau anifeiliaid yn anghyfreithlon ac ymchwilio strwythurau peryglus neu rannau o lwybr yr arfordir.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, fe allai'r dechnoleg fod yn "arf gwerthfawr" mewn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a thipio anghyfreithlon.

Catrin Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Catrin Davies yn gweld y posibilrwydd o ddefnyddio'r dronau fel "cam cadarnhaol ymlaen"

Fe ddywedodd y Cynghorydd Catrin Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: "Dwi'n gweld hyn fel cam cadarnhaol ymlaen.

"Rydyn ni gyd yn poeni am y brawd mawr neu'r llygaid yn y gofod yn ein gwylio ni.

"Ond mae hyn yn mynd i fod yn ddefnydd cyhoeddus iawn, iawn. Dyw e ddim yn gallu digwydd ar amrantiad."

Does dim hawl gan yr heddlu i hedfan y dronau heb fod rheswm cyfreithiol dros wneud hynny.

Bydd rhaid i beilotiaid Cyngor Ceredigion gydymffurfio gyda chanllawiau'r Awdurdod Hedfan Sifil - yn ogystal â rheolau diogelu data.

Mae'r canllawiau yn golygu nad oes hawl hedfan drôn o fewn 150m i ardaloedd preswyl, masnachol, diwydiannol neu hamdden a bod rhaid i beilotiaid gadw'r dronau o fewn golwg yr holl amser.

Mae rheolau hefyd o amgylch uchafswm pwysau o 25 cilogram.

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies fod "rhaid cael caniatâd dau swyddog arall o fewn y sir cyn mynd â'r drôn allan".

"Wrth hedfan, dim ond tystiolaeth sy'n ymwneud âg ymddygiad gwrthgymdeithasol neu dystiolaeth o dor cyfraith sy'n gallu cael ei gadw.

"Os ydyn nhw'n gorfod dod dros eich tŷ, i gyrraedd rhywle, mae'n cael ei waredu.

"Mi fydd yn weithred gyhoeddus iawn, gyda swyddogion mewn siacedi llachar ac arwyddion am beth sydd yn digwydd.

"Mae pum swyddog wedi cael hyfforddiant a thrwyddedi, ond dyw'r dronau ddim wedi costio arian i'r cyngor sir o gwbl.

"Y gobaith yw bod y dechnoleg yn ataliol, yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol rhag digwydd.

"Mi fydd hyn yn cael ei sgrwtineiddio ac yn mynd i bolisi, felly bydd y dronau ddim yn cael eu hedfan tan o leiaf fis Mawrth."

Beth fyddai defnydd y dronau?

Mae Polisi Cerbydau Awyr Di-griw y cyngor yn nodi mai prif ddefnydd y dronau fydd atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Ond gallai'r dronau hefyd gael eu defnyddio ar gyfer:

  • Gorfodi Safonau Amgylcheddol a Masnach: gan gynnwys canfod gwaredu carcasau anifeiliaid yn anghyfreithlon;

  • Llygredd cwrs dŵr;

  • Amodau trwyddedu;

  • Cŵn wedi'u gadael;

  • Tipio anghyfreithlon a gwarediadau anghyfreithlon eraill;

  • Torri is-ddeddfau lleol.

DrônFfynhonnell y llun, Getty Images

Amcangyfrif Cyngor Ceredigion yw y bydd angen llenwi bwlch o £6m yn eu cyllideb o 2026-2027.

Mae hynny'n creu heriau mewn cynnal a darparu gwasanaethau rheng flaen, fel i bob awdurdod arall yng Nghymru.

Bwriad y cyngor yw arbed arian trwy gyflwyno dronau a hwyluso'r gwaith o gadw cymunedau'n ddiogel.

Fe gafodd y cyngor arian grant i brynu'r dronau, sydd yn dechnoleg o'r radd flaenaf.

Maen nhw'n cynnwys camerâu ymbelydredd isgoch sy'n dangos gwres y corff, yn ogystal âg uchelseinydd ar gyfer cyfathrebu.

Defnydd arall posib y dronau yw:

  • Archwiliadau o'r awyr – eiddo a strwythurol;

  • Torri rheoliadau cynllunio;

  • Argyfyngau sifil;

  • Diogelwch meysydd chwarae;

  • Monitro amodau diogelwch digwyddiadau;

  • Delweddau ar gyfer marchnata a chyfathrebu;

  • Monitro/cynllunio traffig;

  • Darlledu gwybodaeth diogelwch cyhoeddus;

  • Gorfodi parcio

Mae ymgynghoriad ar y defnydd o ddronau yn rhedeg tan 14 Ionawr 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.