Arbrawf yn y gogledd sy'n defnyddio dronau i gludo gwaed

Dyn yn dal drôn mewn cae
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd dronau'n gallu helpu i achub bywydau ar draws Cymru

  • Cyhoeddwyd

Bydd dronau'n cael eu defnyddio yn y gogledd orllewin i gludo rhoddion gwaed fel rhan o arbrawf newydd.

Ar hyn o bryd mae rhoddion gwaed yn cael eu prosesu yn ne Cymru ac yna'n gorfod cael eu cludo ar y ffyrdd sydd weithiau'n golygu taith oriau o hyd.

Gobaith prosiect Dragon's Heart yn y pen draw yw hedfan rhoddion gwaed yn syth at fannau damweiniau neu wrthdrawiadau - gan geisio achub bywydau.

Mae'r cynllun peilot i fod i ddechrau yn gynnar yn 2026 ac mae Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi ei ddisgrifio fel cynllun "sylweddol" a "chyffrous".

Mi fydd y dronau'n pwyso tua 55 pwys (25kg) ac maen nhw oddeutu 5.5 troedfedd (1.7m) o ran lled.

Bydd blwch bach ar ben y drôn yn golygu bydd y gwaed yn cael ei osod yng nghorff y teclyn - bydd hyn yn helpu i reoli'r tymheredd.

Dywedodd Gwasanaeth Gwaed Cymru y byddai'n profi gwaed sy'n cael ei gludo fel rhan o'r arbawf, gyda'r dronau ond yn mynd mor uchel â thua 2,000 o droedfeddi (610m).

Mae dirprwy gyfarwyddwr a phennaeth ansawdd, diogelwch a chydymffurfiaeth reoleiddiol y gwasanaeth, Peter Richardson, yn dweud y gall pobl "fod yn dawel eu meddwl".

"Byddwn yn sicrhau bod y gwaed yn ddiogel pan mae'n cyrraedd ond hefyd fyddan nhw ddim yn gwastraffu unrhyw roddion gwerthfawr iawn y mae pobl wedi eu darparu."

Alex Brown
Disgrifiad o’r llun,

Nod Skyports Drone Services yw gallu cludo gwaed at fannau ble mae damweiniau neu wrthdrawiadau wedi digwydd, medd Ales Brown

Yn ôl Alex Brown, Prif Weithredwr Skyports Drone Services - cwmni dronau byd-eang mae'r cynlluniau yma yng Nghymru am arwain y ffordd yn rhyngwladol.

"Mae'n eithaf unigryw gan fod ganddyn nhw'r propelarau yma, felly maen nhw'n gallu mynd i fyny fel hofrennydd ac yna newid i'r hyn ni'n ei alw'n ddull adenydd sefydlog a hedfan fel awyren," meddai Mr Brown.

Ychwanegodd y gallai'r dronau lanio mewn ardaloedd bach, cwmpasu pellter o tua 62 milltir (100km), a gwrthsefyll gwyntoedd o tua 30 not.

Mae dal angen i'r cwmni a'r partneriaid berswadio'r Awdurdod Hedfan Sifil bod yr hediadau'n ddiogel.

Dywedodd Mr Brown: "Os allwn ni wneud hynny'n iawn mae'n golygu y gallwn ni gysylltu meddygfeydd â lleoliadau ar draws cefn gwlad Cymru a wir dod â manteision dronau i bobl Cymru."

Drôn yn hedfan dros gae pêl-droed
Disgrifiad o’r llun,

Os yn llwyddiannus fe all olygu y budd modd cludo rhoddion gwaed yn llawer cynt

Canolfan Awyrofod Eryri, sydd wedi'i lleoli ym maes awyr Llanbedr, Gwynedd, sy'n arwain y bartneriaeth.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Technegol, Jeremy Howitt, mai mantais treialu'r gwasanaeth yno oedd bod cymaint o ofod awyr o amgylch y maes awyr - gofod nad yw awyrennau sydd heb eu cymeradwyo yn cael ei ddefnyddio.

"Mae'n golygu ei fod yn glir o awyrennau eraill, felly gallwn fod yn hyderus ein bod yn hedfan mewn amgylchedd diogel," meddai.

"Ac rydym yn gallu hedfan dros y môr, felly does dim unrhyw risg arall ar y ddaear chwaith.

"Felly gallwn brototeipio'r holl systemau gyda'i gilydd ar unwaith a dangos ei fod yn ddiogel ac yna edrych i symud i lefydd eraill."

Jeremy Howitt
Disgrifiad o’r llun,

Llanbedr yw'r lle perffaith i arbrofi gyda dronau medd Jeremy Howitt

Y cam nesaf fyddai hedfan gwaed o bencadlys Gwasanaeth Gwaed Cymru yn Nhonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, i'r storfa waed yn Wrecsam.

Y gred ydy y gallai hyn leihau amser teithio oddeutu teirawr.

Ar ôl hynny, gallai'r prosiect symud ymlaen i gysylltu'r storfeydd gwaed ag ysbytai.

"Yr hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw rhoi coridorau, traffyrdd, ffyrdd mawr ar gyfer dronau trwy Gymru ac unwaith y bydd y rheini wedi'u rhoi ar waith, yna gallwn ni edrych ar gefnogi ymatebion brys o fewn yr un rhanbarthau hynny hefyd," meddai Mr Howitt.

"Y tu hwnt i'r gwasanaeth gwaed, rydym hefyd mewn trafodaethau â'r gwasanaeth ambiwlans ynghylch sut y gallai hyn gefnogi eu hymateb 999."

Dywedodd Mr Richardson: "Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn wasanaeth Cymru gyfan, ond rydym wedi'n lleoli yn ne Cymru ac ar hyn o bryd mae ein teithiau i orllewin Cymru ac yn enwedig i ogledd Cymru unwaith y dydd, oni bai bod argyfwng.

"Syniad drôn yw, yn lle anfon un cerbyd mawr bob dydd, y gallwn anfon fwy o lwythi llai, gan wella'r amlder, lleihau'r amser aros, a chaniatáu i ni ymateb yn llawer cyflymach i anghenion cleifion ledled Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig