Diffynnydd wedi gweld gwn, ddyddiau cyn i ddynes gael ei lladd

Joanne PenneyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joanne Penney ei saethu'n farw mewn fflat yn Nhonysguboriau fis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o lofruddio menyw a gafodd ei saethu'n farw yn Rhondda Cynon Taf wedi dweud wrth reithgor ei fod wedi gweld gwn ddeuddydd cyn iddi gael ei lladd.

Bu farw Joanne Penney, 40, ar 9 Mawrth ar ôl cael ei saethu mewn fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau.

Dywedodd Jordan Mills-Smith yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth na sylweddolodd fod rhywun wedi cael ei saethu, tan iddo "glywed bang".

Mae Mr Mills-Smith, 33 o Gaerdydd, yn un o bump sydd ar brawf ac mae'n gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Mae Joshua Gordon, 27, Tony Porter, 69, Melissa Quailey-Dashper, 40, a Kristina Ginova, 21 - oll o Gaerlŷr - hefyd yn gwadu'r un cyhuddiad.

Mae Mr Gordon, Mr Porter, Ms Quailey-Dashper a Ms Ginova hefyd yn gwadu cymryd rhan mewn gweithgareddau gang troseddol.

Mae Marcus Huntley, 21 o Laneirwg, Caerdydd, eisoes wedi cyfaddef llofruddiaeth, gyda'i DNA ef wedi'i ganfod ar y gwn.

Jordan Mills-SmithFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Mills-Smith yn gwadu llofruddio Joanne Penney

Ddydd Mawrth, dywedodd Mr Mills-Smith wrth reithgor ei fod yn rhan o gynllun i werthu cyffuriau, ond nad oedd wedi gwneud unrhyw arian o hynny.

O ganlyniad "camodd i ffwrdd", meddai, ond roedd yn dal i adael i Huntley ddod i'r tŷ lle'r oedd yn byw.

"Byddai Marcus yno trwy'r amser," meddai Mr Mills-Smith.

Dywedodd Mr Mills-Smith eu bod yn y tŷ ar 7 Mawrth pan welodd wn - deuddydd cyn i Ms Penney gael ei saethu.

Clywodd y llys iddo weld y gwn "ar yr ochr" tra'r oedd yn glanhau a'i fod wedi dweud wrth Huntley: "Dos â fe allan o fy nhŷ."

Dyna oedd y tro olaf iddo glywed am y gwn, meddai.

Dywedodd Mr Mills-Smith ei fod wedi mynd allan i chwarae pêl-droed am hanner dydd ar y diwrnod y cafodd Ms Penney ei saethu, gan adael tri o bobl yn ei dŷ.

Ar ôl dod dychwelyd, roedd grŵp wedi casglu yn ei gegin ac roedd "Marcus yn sôn am ddwyn arian a chyffuriau", meddai.

Dywedodd nad oedd wedi gweld na chlywed unrhyw sôn am wn, ac fe gytunodd i fynd gyda nhw oherwydd ei fod angen arian.

Ar ôl cyrraedd, bu'n gweithredu fel gwyliwr ac fe gurodd Ms Quailey-Dashper ar y drws, meddai.

Ychwanegodd Mr Mills-Smith nad oedd yn ymwybodol o wn a'i fod yn edrych i ffwrdd o'r drws.

"Clywais y drws yn agor ac wrth i mi fynd i'r ochr clywais sŵn bang, felly rhedais," meddai.

Pan drodd o gwmpas, dywedodd ei fod wedi gweld Huntley yn rhoi rhywbeth i lawr ei drowsus a sylweddoli ei fod yn debygol o fod yn wn.

'Dim trafodaethau am y saethu'

Wrth iddyn nhw redeg yn ôl at y car dywedodd Mr Mills-Smith wrth y llys ei fod wedi gofyn i Huntley am y peth ond na chafodd unrhyw ymateb ganddo.

Y noson honno dywedodd ei fod wedi derbyn neges destun yn dweud wrtho fod "rhywun wedi marw".

Dywedodd Mr Mills-Smith nad oedd erioed wedi cwrdd â Ms Penney o'r blaen ac nad oedd ganddo unrhyw reswm i'w brifo na'i lladd.

Pan ofynnodd Mr Hynes KC iddo a glywodd unrhyw drafodaethau am ei saethu, atebodd "na".

Dywedodd wrth y llys ei fod yn cymryd cyfrifoldeb am fod yno, ond ei fod "dim ond yn gallu bod yn gyfrifol am fy ngweithredoedd fy hun".

Cafodd lluniau o wn eu dangos iddo, ac fe gadarnhaodd Mr Mills-Smith mai hwnnw oedd yr un a welodd ddeuddydd ynghynt.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig