Chwe Gwlad: Cymru'n colli 27-17 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn

- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi colli oddi cartref yn erbyn Iwerddon yn eu pedwaredd gêm ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn Stadiwm Aviva yn Nulyn.
Y sgôr terfynol oedd 27-17 gyda'r tîm cartref yn sgorio pedwar cais, tra mai Rhys Carre a James Botham a groesodd i Gymru.
Er i'r Gwyddelod ennill yn y pen draw, roedd Cymru yn y gêm am gyfnodau hir ac o fewn dau bwynt ar yr egwyl.
Fe ddaw'r golled ar ôl perfformiad gwell yn erbyn yr Alban yn eu gêm ddiwethaf ond fe golloddd y tîm cenedlaethol yn drwm yn erbyn Lloegr a Ffrainc yn eu gemau agoriadol.
Mae Cymru ar waelod y tabl ac yn wynebu'r Eidal y penwythnos nesaf er mwyn gorffen y gystadleuaeth.

Sgoriodd Rhys Carre gais pwysig i Gymru yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf yn erbyn Iwerddon
Dechreuodd Iwerddon yn gryf gyda'r asgellwr Jacob Stockdale yn croesi am y cais cyntaf wedi dim ond chwe munud o chwarae. Fe drosodd Jack Crowley i roi'r Gwyddelod ar y blaen o 7-0.
Er gwaethaf y dechrau cryf gan y tîm cartref, llwyddodd Cymru i ymateb pan giciodd Dan Edwards gôl gosb ar ôl 17 munud i roi'r ymwelwyr ar y sgorfwrdd.
Bu cyfnod hir o bwysau gan Iwerddon wedyn, a tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf fe groesodd y maswr Crowley am ail gais ei dîm ar ôl cyfres o gymalau ger llinell Cymru.
Ond yn eiliadau olaf yr hanner daeth ymateb pwysig gan Gymru. Fe dorrodd y blaenwr Rhys Carre trwy'r amddiffyn i sgorio cais unigol trawiadol, gydag Edwards yn trosi i gau'r bwlch.

Sgoriodd James Botham ail gais Cymru yn ystod yr ail hanner yn erbyn Iwerddon yn Nulyn
Daeth dechrau cryf arall gan y tîm cartref ar ôl yr egwyl, gyda'r rhif wyth Jack Conan yn croesi am drydydd cais Iwerddon o fewn munudau i ddechrau'r ail hanner. Trosodd Crowley i ymestyn y fantais.
Ond llwyddodd Cymru i ddod yn ôl i mewn i'r gêm ar ôl yr awr pan groesodd James Botham am gais ar ôl cyfnod o bwysau gan yr ymwelwyr. Fe drosodd Edwards i leihau'r bwlch unwaith eto.
Roedd gobaith i Gymru wrth i'r gêm fynd yn ei blaen, ond fe groesodd Jamie Osborne am bedwerydd cais Iwerddon ar ôl 68 munud gan roi mwy o reolaeth i'r Gwyddelod.
Ychwanegodd Crowley gôl gosb yn hwyr yn y gêm i sicrhau buddugoliaeth o 27-17 i'r tîm cartref.
Er y golled, roedd arwyddion cadarnhaol i Gymru ar adegau wrth iddyn nhw gystadlu'n galed yn erbyn un o dimau cryfaf y bencampwriaeth.
Fe fydd Cymru yn wynebu'r Eidal yn eu gêm olaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Ddydd Sadwrn 14 Mawrth (16:40).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd23 Chwefror

- Cyhoeddwyd21 Chwefror
