Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 26 -23 Cymru

Llun o chwaraewyr Cymru yn ysgwyd llaw gyda chwaraewyr yr Alban ar ddiwedd y gem.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Siom i Gymru wrth golli yn ystod munudau ola'r gêm

  • Cyhoeddwyd

Yn eu gêm yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, colli o 23 pwynt i 26 oedd hanes Cymru, wrth i'r Alban frwydro yn ôl yn ystod yr ail hanner i dorri calonau y tîm cartref.

Roedd dechrau positif a llawn hyder i'r gêm yn stadiwm y Principality gyda prop Cymru Rhys Carre yn sgorio cais gynta'r gêm i roi Cymru ar y blaen 7-0 ar ôl naw munud.

Cic cosb sydyn Dewi Lake gychwynodd y symudiad, arweiniodd at bas cyflym i Carre blymio dros y llinell gais i ddod â'r dorf ar eu traed.

Cychwyn gwych yn amddiffynol i Gymru a chadw'r bêl yn eu meddiant wrth roi pwysau ar yr Albanwyr ond serch hynny daeth yr Alban yn ôl i mewn i'r gêm wrth i'r asgellwr Kyle Steyn sgorio cais i wneud y sgôr yn 7-5.

Er bod Cymru i lawr i 14 dyn yn dilyn cerdyn melyn i ganolwr Cymru Joe Hawkins ar ôl 18 munud, ymestynodd Cymru y bwlch rhwng y ddau dîm i 14-5 wedi i bas dda gan Sam Costelow ryddhau'r asgellwr Josh Adams i sgorio ail gais i Gymru.

Gyda chic gosb gan Sam Costelow yn ymestyn y fantais ymhellach, roedd Cymru'n edrych yn dîm cryfach na'u perfformiadau diweddar gyda'r sgôr ar yr egwyl yn 17-5.

Llun o Josh Adams yn sgorio cais i GymruFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Asgellwr Cymru Josh Adams yn sgorio cais

Roedd Cymru yn edrych yn hyderus ac ar y blaen ar yr egwyl, am y tro cyntaf o dan yr hyfforddwr Steve Tandy.

Cic gosb arall gan Sam Castelow yn rhoi Cymru ymhellach ar y blaen o 20-5 ar gychwyn yr ail hanner.

Wedyn daeth cais gan yr Alban wrth i Finn Russell wibio dros y llinell gais i ddod a'r sgor yn 20-12 yn dilyn y trosiad llwyddiannus.

Cic gosb gan Jared Evans yn gweld Cymru yn mynd 23 - 12 ar y blaen.

Yn syth o'r gig i ailgychwyn, daeth cais sydyn i roi yr Alban yn ôl yn y gêm wrth i Darcy Graham fynd dros y llinell ac yna y trosiad gan Finn Russell yn gwneud y sgôr yn 23 - 19

Er bod Cymru wedi arwain ers 10 munud cynta'r gêm, yn ystod y chwe munud ola, mi aeth yr Alban ar y blaen am y tro cynta ar ôl cais gan George Turner a throsiad llwyddiannus arall gan Russell.

Siom i Gymru wrth i'r sgôr droi yn 23 - 26, ac er gwaetha'r ymdrech galed, dyma oedd y sgôr terfynol!

Dyma bedwerydd buddugoliaeth Yr Alban yn olynol yn erbyn Cymru a hynny am y tro cyntaf ers 99 o flynyddoedd

Mae'r Alban ar frig tabl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru yn aros ar y gwaelod heb ennill gêm.

Fydd Cymru yn wynebu Iwerddon nesa yn Nulyn ar 27 Chwefror.

Llun o Sam Costelow yn cicio pel yn ystod y gemFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sam Costelow yn rhoi Cymru ar y blaen ar gychwyn yr ail hanner

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.