Alcaraz yn cipio'r goron: Ond pwy yw'r Cymro wnaeth ddyfeisio tenis?

Carlos Alcaraz Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carlos Alcaraz yn gorfoleddu yn ystod ffeinal pencampwriaeth tenis agored Awstralia

GanRhodri Tomos
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Fore Sul, fe ennillodd y Sbaenwr Carlos Alcaraz bencampwriaeth tenis agored Awstralia.

Drwy wneud hynny fe ddaeth y dyn ieuengaf erioed i gipio pedair prif gystadleuaeth y byd tenis ag yntau ond yn 22 oed.

Wrth dderbyn y tlws fe ddiolchodd i lu o bobl, ond doedd y dyn a ddyfeisiodd tenis ddim yn eu plith.

Mae'n siwr nad oedd Alcaraz yn ymwybodol o gyfraniad anferth y Cymro, Walter Wingfield i'w record - heb fodolaeth tenis fyddai o ddim yn bencampwr!

Walter WingfieldFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Walter Wingfield o Riwabon ger Wrecsam, y dyn a ddyfeisiodd y gamp tenis fel dyn ni'n ei adnabod heddiw

Cafodd Walter Wingfield ei eni yn Rhiwabon yn Hydref 1833, a bu'n byw yno ac yn Sir Drefaldwyn am gyfnodau hir.

Fe gafodd yrfa lwyddiannus yn y fyddin gan godi i safle Uwch-gapten, ond roedd hefyd yn ddyn dyfeisgar wnaeth droi ei law i fyd chwaraeon.

Roedd camp o'r enw Real Tennis yn bodoli ers dyddiau brenin Harri VIII, ond camp dan-do oedd hi.

Erbyn 1874, roedd Wingfield wedi dyfeisio gêm i'w chwarae ar lawnt, ac wedi ysgrifennu llyfr rheolau cyflawn.

Centre CourtFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr enwog Centre Court yn yr All England Tennis and Croquet Club yn Wimbledon

Wrth geisio gwerthu'r llyfr a hyrwyddo'r gamp newydd fe aeth i Lundain - yn benodol, aeth at yr All England Croquet Club a gafodd ei sefydlu yn Wimbledon bum mlynedd yn gynt.

Fe brofodd y gamp yn eithriadol o boblogaidd ac erbyn 1876 roedd y clwb wedi newid enw i'r All England Tennis and Croquet Club - yr enw swyddogol hyd heddiw.

Flwyddyn yn ddiweddarach fe gafodd pencampwriaeth tenis fyd-enwog Wimbledon ei chynnal am y tro cyntaf.

Bu farw Walter Wingfield yn 1912, ond yn 1997 fe gafodd ei urddo i Oriel Anfarwolion Tenis Rhyngwladol fel yr un a sefydlodd y gêm fodern, ac mae cerflun a bywgraffiad ohono yn amgueddfa tenis Wimbledon.

Mae dyled Carlos Alcaraz a'i holl gyd-chwaraewyr yn fawr.

Gobeithio rhyw ddydd y cawn nhw glywed am gyfraniad y Cymro i'w gyrfaoedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: