O Louvain i'r Rhos: Ffoaduriaid yn ysbrydoli gwaith cerddorol

Brian Hughes
- Cyhoeddwyd
Mae darn o gerddoriaeth newydd gan y cyfansoddwr Brian Hughes yn cofio hanes ffoaduriaid a ddaeth i Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac hefyd yn talu teyrnged i ddawn Dr Caradog Roberts fel cyfansoddwr.
Bydd y darn Prelude and Fugue on Louvaine yn cael ei pherfformio gan y pianydd Llŷr Williams yng Ngŵyl Gerdd Bangor sy'n cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontio ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 14-15 Chwefror.
Bu Brian Hughes yn siarad gyda Cymru Fyw am yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r gwaith.
Yn ôl y cerddor, ysbrydolwyd Prelude and Fugue on Louvaine gan stori ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i Gymru o ddinas Louvain ar ôl iddi gael ei dinistrio'n llwyr gan fyddin yr Almaen yn 1914.
Dywedodd Brian, sy'n byw yng Ngresffordd: "Canfodd ffoaduriaid o'r ddinas ddiwylliannol honno y ffordd i Rosllannerchrugog a chawsant eu cartrefu yng Nghapel Bethlehem, lle'r oedd Dr Caradog Roberts yn organydd.
"Cyhoeddodd yr emyn Louvaine yn 1916, ac mae'n sail i'r preliwd a'r ffiwg hwn. Mae Llŷr yn aelod o'r capel, sy'n ei gwneud yn ddewis addas i'w berfformio."
Mae'r cyfansoddwr a'r pianydd wedi'u huno gan gysylltiadau teuluol hefyd wedi i Brian fynychu'r ysgol gyda thad Llŷr, Gwyn.

Y pianydd Llŷr Williams
Meddai Brian: "Mae bob tiwn gan Caradog Roberts efo'r syniad yma bod o'n rhywbeth personol iddo fo, a bod y briodas yma rhwng y geiriau a'r gerddoriaeth.
"Yn ogystal â defnyddio ambell ffigwr cerddorol o'r emyn-dôn gwreiddiol dwi'n gobeithio fod naws hudolus y ddinas cyn ymosodiad yr Almaenwyr yn cael ei hamlygu yn y preliwd tyner. Wedyn mae dinistr a difrod yn nodweddu y ffiwg llawn drama ac egni."
Meddai Brian am yr ysbrydoliaeth tu ôl i'w waith: "O'n i' wastad wedi teimlo beth oedd yr ysgogiad i Caradog Roberts i roi'r enw Louvaine i'r gwaith.
"Mae'n amlwg oedd o'n rhywbeth i'w wneud efo'r Rhyfel Byd Cyntaf, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd y cysylltiad.
"Wedyn mi ddes i ar draws y stori yma, fod ffoaduriaid o Louvain wedi landio yng Nghymru, ac yn fwy trawiadol na hynny yng nghapel Bethlehem a bod nhw'n cael eu cartrefu yno.
"Fedrwn ni ddychmygu Caradog Roberts yn mynd trwy'r ysgoldy a trwy'r festri ar ei ffordd i fyny i lofft yr organ ac yn siarad efo'r bobl a gweld nhw yn eu trueni. Ac felly dyma'r rheswm mae'r diwn wedi cael ei alw yn Louvaine."

Brian Hughes
Mae Brian yn credu ei bod hi'n bwysig i gofio nid yn unig am stori'r ffoaduriaid ond hefyd arwyddocâd Caradog Roberts: "Mae dau beth yn bwysig. Mae'n stori mor ddiddorol a ry'n ni'n cael y rheswm gwirioneddol pam gyfansoddodd Caradog Roberts y dôn. Ond hefyd mae'r gerddoriaeth mor grefftus.
"Oedd o'n grefftwr, wedi ei brentisio fel saer coed. Ac mae 'na grefft yn y ffordd mae'n creu'r alaw.
"Mae 'na grefft mawr ym mhopeth mae Caradog Roberts yn ei wneud, yn enwedig yn y dôn yma.
"Ry' ni'n tueddu i feddwl am emyn-donau fel rhywbeth israddol ond roedd Caradog Roberts yn broffesiynol.
"Hefyd mae eisiau llawer mwy o le i'r trysorfa eang sy' gyda ni o donau yn enwedig y rhai gan Caradog Roberts."
Mae Brian yn edrych ymlaen at y gyngerdd yn fawr, meddai: "Wrth gwrs mae perfformiad gan Llŷr Williams yn anrhydedd, mae o'n athrylith ac yn bianydd byd-enwog ac mae bob amser yn ddiddorol i gyfansoddwyr i glywed rhywun arall yn rhoi perfformiad o'u gwaith. Rwy'n edrych ymlaen i'r achlysur."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd2 Chwefror
