Heddlu'n apelio am help i ganfod carcharor sydd ar ffo

Y cyngor i'r cyhoedd ydy i beidio mynd yn agos at Liam Wall
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am gefnogaeth y cyhoedd ar ôl i garcharor ffoi o garchar yn Sir Fynwy ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod eisiau gwybodaeth i ganfod Liam Wall, 36, wnaeth ddianc o Garchar Prescoed ym mhentref Coed-y-paen, Pont-y-pŵl.
Cafodd Wall ei ganfod yn euog o droseddau cyffuriau yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf 2017.
Mae wedi cael ei ddisgrifio fel dyn tua phum troedfedd ac wyth modfedd o daldra, pen moel, llygaid brown a barf frown.
Y cyngor i'r cyhoedd ydy i beidio mynd yn agos at Wall ac i gysylltu â'r heddlu os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth neu'n ei weld.