Dyn o Lanberis yn cael gorchymyn am ddwyn offer rhaglen DIY SOS

Cafodd David Matthew Pugh ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 25 oed wedi cael gorchymyn i gyflawni 200 awr o waith di-dâl, am ddwyn cymysgwr sment oedd yn cael ei ddefnyddio gan raglen deledu'r BBC, DIY SOS.
Cymerodd David Matthew Pugh, o Lainwen Isaf yn Llanberis, y cymysgwr a dwy ferfa yng nghanol y nos ym mis Rhagfyr y llynedd.
Nid oedd Mr Pugh yn gwybod bod tag tracio ar y cymysgwr, oedd yn golygu bod yr heddlu wedi gallu dod o hyd iddo mewn garej yn ei gartref yn fuan wedyn.
Dywedodd ei gyfreithiwr ei fod yn ymddiheuro, a bod y cymysgwr a'r berfau wedi cael eu dychwelyd heb ddifrod.
Mae swyddfa wasg y BBC wedi cael cais i ymateb.

Cafodd y cymysgydd sment ei ddychwelyd i'r safle deuddydd ar ôl iddo ddiflannu
Yn erlyn, dywedodd Natalee Hughes-Jones wrth y llys fod y rhaglen deledu yn gwneud gwaith adnewyddu mewn tŷ ar Stryd Ianci, Llanberis, ddechrau Rhagfyr.
"Ar fore Sul 7 Rhagfyr, derbyniodd y cwmni llogi adroddiad gan y traciwr bod y cymysgwr mewn garej wrth ymyl tŷ David Pugh," meddai.
Dywedodd y cyfreithiwr a oedd yn amddiffyn, Simon Sargent, fod David Pugh wedi bod allan yn yfed ac ar ei ffordd adref pan welodd y cymysgwr a'r berfau wrth ochr y ffordd.
"Nid oedd yn ymwybodol ar unrhyw adeg fod yr offer yn cael ei ddefnyddio gan y rhaglen DIY SOS," meddai'r cyfreithiwr wrth y llys.
"Fe'u gwthiodd nhw adref, penderfyniad y mae'n ei ddifaru'n fawr.
"Mae'r cyhoedd yn meddwl ei fod wedi targedu DIY SOS yn fwriadol - sydd ddim yn wir - ac mae'n teimlo embaras mawr ac yn ymddiheuro'n agored."

Roedd dwy ferfa ymhlith yr offer a gafodd eu dwyn
Ond, dywedodd Mike Watling o'r Gwasanaeth Prawf nad oedd yn siŵr os oedd hwn yn lladrad oportiwnistig.
"Roedd y llwybr heibio'r tŷ yma yn ffordd hir adref," meddai. "Dwi ddim yn credu ei fersiwn o'r digwyddiadau - efallai ei fod yn ymwybodol bod yr offer yno?
"Mae llawer mwy i hyn nag y mae wedi cyfaddef."
Rhoddodd yr ynadon orchymyn cymunedol o 18 mis i David Pugh.
Bydd yn rhaid iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl, cymryd rhan mewn 10 diwrnod o hyfforddiant adsefydlu a gwisgo tag alcohol am 60 diwrnod.
Rhaid iddo hefyd dalu costau o £85 a swm o £114.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2025
