Hyder parafeddyg 'wedi chwalu' ar ôl i glaf ymosod arni'n rhywiol

Emily HiltonFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emily Hilton fod y profiad wedi gwneud iddi ystyried os yw hi am barhau i wirfoddoli

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae parafeddyg gwirfoddol wedi bod yn disgrifio sut y gwnaeth claf ymosod arni'n rhywiol wrth iddo gydio ynddi a'i chusanu.

Roedd Emily Hilton, sy'n ymatebwr cyntaf cymunedol, yn asesu cyflwr y dyn ar y pryd wedi iddo ddisgyn ar ffordd brysur yng Nghaerdydd.

Dywedodd fod y profiad wedi gwneud iddi ystyried a oedd hi am barhau yn y rôl, a'i fod wedi chwalu ei hyder.

"Yn ystod tair blynedd o wirfoddoli, does neb wedi gwneud unrhyw beth fel hynny i mi o'r blaen," meddai.

Mae ymatebwyr cyntaf cymunedol yn ymateb i alwadau 999 yn eu hardaloedd lleol ac yn rhoi cymorth cyntaf cyn i'r ambiwlans gyrraedd.

Maen nhw wedi derbyn hyfforddiant i gynnig therapi ocsigen a CPR i gleifion, yn ogystal â'r defnydd diogel o ddiffibrilwyr.

Emily Hilton, sydd wedi ildio ei hawl i barhau yn ddienw, oedd y cyntaf i gyrraedd y digwyddiad ar Ffordd Casnewydd ym mis Mawrth y llynedd wedi adroddiadau bod dyn wedi disgyn o'i gadair olwyn.

"Roedd y claf yn glir nad oedd o eisiau cymorth meddygol, ond mi oedd o eisiau help gyda mynd adref felly wnes i ffonio'r stafell reoli i drefnu'r camau nesaf," meddai.

"Ar ôl siarad gyda'r timau rheoli a'r timau clinigol, fe ddechreuodd ddefnyddio iaith ymosodol ac fe wnaeth o fygwth fy nharo."

'Fe wnaeth y cyfan chwalu fy hyder yn llwyr'

Fe ofynnodd i'r dyn os hoffai adael, ond dywedodd ei fod mewn poen.

"Fe wnes i gynnig ei asesu, a dyna pryd y gafaelodd yn fy ngwddf a'n nhynnu yn agos at ei wyneb a cheisio fy nghusanu ar fy ngwefus," esboniodd Emily.

"Roeddwn i mewn sioc pan afaelodd o arna i yn y lle cyntaf, ond roedd o hefyd yn dal vape yn ei law - rhywbeth yr oeddwn i, am eiliad, wedi ei gamgymryd am gyllell."

Fe symudodd Emily yn ôl a gofyn i'r dyn i beidio gwneud hynny, ac fe gyrhaeddodd yr ambiwlans yn fuan wedyn. Fe eglurodd i'r criw be' oedd wedi digwydd a chafodd yr heddlu eu galw o ganlyniad.

Cafodd Craig Burgess, 48 oed o Gaerdydd, ei arestio a'i gyhuddo o ymosod yn rhywiol.

Cafwyd Burgess yn euog ym mis Mai a chafodd orchymyn cymunedol mewn achos yn Llys Ynadon Caerdydd yn gynharach y mis hwn.

Yn ogystal, cafodd ddirwy o £60 a gorchymyn i dalu iawndal o £100 a bydd yn parhau ar y gofrestr troseddwyr rhyw am bum mlynedd.

Llun o Emma WoodFfynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma Wood fod ymosodiad o unrhyw fath ar weithiwr brys yn annerbyniol

"Fe wnaeth y cyfan chwalu fy hyder yn llwyr," meddai Ms Hilton

"Wrth gwrs mae rhai cleifion yn rhwystredig gan eu bod nhw wedi aros am amser hir am help, ond dyma'r tro cyntaf i rywun fod yn dreisgar.

"Mae o wedi gwneud i mi ystyried os ydw i am barhau i wirfoddoli."

Ychwanegodd fod dod i delerau gyda'r hyn ddigwyddodd wedi bod yn anodd a'i bod wedi profi gorbryder yn y cyfnod wedi'r digwyddiad.

Dywedodd Emma Wood, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae unrhyw ymosodiad ar weithiwr brys yn annerbyniol, ond yr hyn sydd yn gwneud achos Emily mor echrydus yw'r ffaith ei bod hi'n gwirfoddoli ar y pryd, heb dâl, er mwyn cefnogi ei chymuned."

Yn ôl James Paget o Heddlu De Cymru, mae effeithiau meddyliol a chorfforol ymosodiadau o'r math yma yn gallu para am amser hir iawn.

"Dylai neb orfod mynd i'r gwaith yn ofni eu bod am gael eu trin fel hyn... roedd gweithredoedd Craig Burgess y noson honno yn ofnadwy."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig