Cyhuddo dyn o Lanberis ar ôl i offer tîm DIY SOS gael ei ddwyn

Mae tîm rhaglen boblogaidd y BBC, DIY SOS wedi bod yn gweithio ar brosiect yn Llanberis
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo ar ôl i offer gael ei ddwyn o safle prosiect DIY SOS yn Llanberis.
Dydd Sadwrn cafodd neges ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan aelod o'r tîm tu ôl i'r rhaglen BBC boblogaidd yn gofyn am gymorth ar ôl iddyn nhw ddarganfod bod offer adeiladu hanfodol wedi diflannu.
Ond brynhawn Sul fe ddywedodd y tîm bod yr offer, oedd yn cynnwys sawl berfa a chymysgydd sment, wedi cael eu canfod.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn lleol wedi cael ei gyhuddo yn dilyn y digwyddiad, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Roedd sawl berfa ymhlith yr offer a gafodd ei ddwyn
Mae tîm DIY SOS yn parhau i weithio ar eu prosiect adeiladu newydd yn y pentref yng Ngwynedd.
Mewn neges ar lein dywedon nhw eu bod nhw'n "ddiolchgar iawn" i Heddlu Gogledd Cymru am eu cefnogaeth ers i'r offer gael ei ddwyn.
Maen nhw hefyd wedi diolch i'r "holl grefftwyr, cyflenwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi eu hamser a'i sgiliau i'r prosiect er mwyn cwblhau'r gwaith adeiladu".
"Er nad yw'r tywydd wedi bod o'n plaid, mae cymuned Llanberis wedi bod yn anhygoel," meddai'r tîm.

Cafodd y cymysgydd sment ei ddychwelyd i'r safle deuddydd ar ôl iddo ddiflannu
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau hefyd bod y peiriannau oedd wedi eu dwyn wedi cael eu dychwelyd i'r tîm yn Llanberis.
Maen nhw'n dweud gall y pentref "ddisgwyl mwy o bresenoldeb heddlu" dros y dyddiau nesaf tra'u bod nhw'n cefnogi tîm DIY SOS.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.