Teyrnged i 'ŵr a thad annwyl' fu farw mewn gwrthdrawiad ym Môn

Llun o Arwyn, Sioned a LillyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Arwyn Jones mewn gwrthdrawiad ar yr A5025 ger Pentraeth

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pentraeth ar Ynys Môn wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Arwyn Jones, 29 o Lanfairpwll, wedi'r digwyddiad ar yr A5025 ddydd Sul, 25 Ionawr.

Roedd dau gar - Peugeot 208 llwyd ac Audi A5 Quattro aur - wedi taro ei gilydd ar Ffordd Pentraeth rhwng Pen-Y-Garnedd a safle Pentraeth Automotive.

Cafodd Mr Jones ei ddisgrifio gan ei deulu fel "gŵr, tad, mab a brawd annwyl iawn... fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un".

Pentraeth
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5025, Ffordd Pentraeth

Ychwanegodd y teulu eu bod yn "dorcalonnus" a bod eu byd wedi "rhwygo'n ddarnau".

"Roedd Arwyn a minnau wedi bod gyda'n gilydd ers dros 15 mlynedd ac ef oedd cariad fy mywyd. Ein merch, Lilly, oedd ei fywyd," meddai Sioned, gwraig Arwyn.

"Byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac yn mwynhau ei waith fel cynorthwyydd cegin mewn cartref gofal ym Mhentraeth, lle'r oedd wedi gweithio ers mis Medi'r llynedd.

"Roedd yn hoff iawn o Star Wars, yn mwynhau gemau, wrth ei fodd yn mynd am droeon hir yn y coed a thorri coed gyda'i dad.

"Byddwn ni gyd yn ei golli'n fawr."

Roedd Mr Jones yn gyrru'r Peugeot ac yn ôl Heddlu Gogledd Cymru roedd wedi marw yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad.

Cafodd gyrrwr y car arall - dyn 22 oed - ei anafu'n ddifrifol a'i gludo i'r ysbyty.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio ar unrhyw un oedd yn teithio ar yr A5025 tua 06:30 ar fore 25 Ionawr, a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu'n gallu cynnig lluniau dash-cam perthnasol, i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig