Adroddiad yn honni bod 'diwylliant gwenwynig' yn ysbyty mwyaf Cymru

Ysbyty Athrofaol CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr adroddiad i adran sterileiddio a diheintio offer meddygol Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ei gwblhau ym mis Awst 2024

GanOwain Clarke
Gohebydd Iechyd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn dweud eu bod wedi cymryd camau cadarn - gan gynnwys camau disgyblu - yn erbyn pum aelod o staff.

Daw hyn ar ôl i adolygiad dynnu sylw at "ddiwylliant gwenwynig" o fewn adran yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Clywodd yr adolygiad mewnol, gafodd ei ryddhau'n answyddogol i Wales Online, am adroddiadau o "fwlio ac aflonyddu" ac ymddygiad "treisgar ac ymosodol" yn uned HSDU yr ysbyty - sy'n gyfrifol am sterileiddio a diheintio offer meddygol.

Cafodd yr ymchwiliad, na chafodd ei ryddhau'n gyhoeddus, ei gwblhau ym mis Awst 2024.

Canfu bod "methiant systemig ar bob lefel... ers dros 10 mlynedd" a bod ymddygiad gwael wedi cael ei "adael heb ei wirio", gan arwain at ddiffyg ymddiriedaeth o fewn y tîm ac yn rheolwyr yr ysbyty.

Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai'n gwneud sylwadau ar y manylion penodol yn adroddiad Wales Online.

Ond mewn datganiad i BBC Cymru dywedon nhw eu bod wedi gweithredu'n "gadarn ac yn deg" i ddelio â'r "honiadau hanesyddol" yn unol â pholisïau adnoddau dynol.

Ychwanegon nhw fod "goruchwyliaeth arweinyddiaeth, trefniadau rheoli a diwylliant tîm" hefyd wedi cael eu cryfhau.

Offer llawdriniaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr adolygiad dynnu sylw at "ddiwylliant gwenwynig" o fewn adran sy'n sterileiddio a diheintio offer meddygol

Yn wreiddiol, roedd yr ymchwiliad yn seiliedig ar gyfweliadau un-i-un - oedd yn cynnwys 64 o aelodau staff presennol a chyn-aelodau staff, yn ogystal â 10 uwch arweinydd oedd dros amser wedi bod ynghlwm â rhedeg yr adran.

Mae'r ymchwiliad yn nodi bod:

  • nifer sylweddol o bobl wedi adrodd am achosion o "fwlio ac aflonyddu" yn y gweithle, gyda rhai staff "ddim yn teimlo'n ddiogel" yn y gwaith;

  • diwylliant a gafodd ei ddisgrifio fel un "gwenwynig" ac yn "feddyliol flinedig", gyda rhai staff yn teimlo nad oedden nhw'n cael cefnogaeth wrth godi pryderon;

  • cwynion wedi bod am "bobl yn ymddwyn mewn modd treisgar neu ymosodol", er enghraifft yn "taflu hambyrddau", "gweiddi", neu "daro trolïau" wrth golli eu tymer;

  • staff yn "rhegi neu'n defnyddio iaith amhroffesiynol" yn ystod oriau swyddfa;

  • enghreifftiau o ymddygiad gorfodaethol [coercive] - gyda rhai cydweithwyr yn ymddangos eu bod yn "ffynnu" wrth dargedu unigolion;

  • "dau brif clique" yn gweithredu yn yr uned, yn adrodd yn ôl ar ymddygiadau ei gilydd;

  • cwynion nad oedd adolygiadau ac arolygon blaenorol, mor bell yn ôl â 2017, wedi gwneud "unrhyw wahaniaeth", gan roi'r argraff bod "ymddygiad gwael wedi cael ei oddef dros nifer o flynyddoedd".

NyrsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nododd yr adolygiad nad oedd rhai aelodau staff yn teimlo'n ddiogel

Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar ddigwyddiadau penodol, gan gynnwys un yn 2022 pan wnaeth rheolwyr a goruchwylwyr yr uned "adael neges amhriodol yn ddamweiniol" ar beiriant ateb aelod o'r tîm.

Roedd un pryder yn 2020 hefyd bod rhywun wedi ymyrryd â photel Lucozade aelod o staff - er i'r heddlu ddod i'r casgliad "nad oedd unrhyw dystiolaeth o fwriad troseddol ac na chafodd unrhyw gamau pellach eu cymryd".

Ond canfu'r adolygiad hefyd bod rhai aelodau o staff, oedd wedi codi pryderon eu hunain, wedi methu â myfyrio na chydnabod y gallai ymddygiad eu hunain fod yn "ffactor cyfrannol", heb unrhyw barodrwydd i "newid eu hymddygiad i wella'r diwylliant o fewn yr uned".

'Diwylliant ddim yn ddiogel'

Daw'r adroddiad i'r casgliad "nad yw'r diwylliant o fewn HSDU yn ddiogel" [i'r rhai dan sylw] ac nad oedd yn agored nac yn dryloyw i "bawb allu siarad yn rhydd".

Mae'n argymell datblygu "cynllun gweithredu diwylliannol" i gefnogi'r uned yn ogystal â "chanlyniadau" i unigolion ynghyd â mesurau i gryfhau goruchwyliaeth reoli.

Ond mae'n cydnabod "y bydd newid diwylliant [o fewn yr uned] yn cymryd amser" a bod angen i bawb sy'n gysylltiedig â hi gymryd rhan.

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro:

"Rydym yn fodlon ein bod wedi delio â'r honiadau heriol iawn, (ac yn yr achos hwn) hanesyddol, yn gadarn, yn deg, yn gyfartal ac yn dosturiol.

"Mae atgofion a disgrifiadau cydweithwyr o ddigwyddiadau yn newid dros amser ac mae'n rhaid i'r rhai sy'n ymchwilio lunio barn yn seiliedig ar dystiolaeth yr holl unigolion dan sylw.

"Archwiliodd yr adolygiad ystod o faterion diwylliannol ac ymddygiad o fewn y gwasanaeth a arweiniodd at argymhellion a chamau gweithredu clir.

"Yn dilyn hynny roedd pump aelod o staff yn destun camau disgyblu, ymddiswyddodd dau ohonynt yn ddiweddarach, ail-leolwyd dau i rolau y tu allan i uned gofal iechyd y sir a chafodd un aelod o staff ei ddiswyddo.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi cymryd yr adolygiad a'r camau gweithredu o ddifrif."

'Wedi cryfhau diwylliant'

Aeth llefarydd y bwrdd iechyd yn ei flaen i ddweud bod "goruchwyliaeth arweinyddiaeth, trefniadau rheoli a diwylliant tîm wedi'u cryfhau", ers i'r adolygiad ddod i ben.

"Mae cydweithwyr yn nodi ffyrdd mwy effeithiol o weithio ac amgylchedd tîm mwy cadarnhaol.

"Er y gall profiadau unigol amrywio, mae hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol o fewn y gwasanaeth," ychwanegodd y llefarydd.

"Hoffem gydnabod ymrwymiad a gwaith caled cydweithwyr o fewn y gwasanaeth wrth gyflawni'r gwelliannau hyn, gan barhau i flaenoriaethu diogelwch a lles ein cleifion."

Andrew RT DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Andrew RT Davies gwestiynu Eluned Morgan am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y materion a gafodd eu codi yn yr adroddiad yn cael sylw

Cafodd y pryderon eu codi yn y Senedd gan Andrew RT Davies, yr Aelod Ceidwadol dros Ganol De Cymru.

Yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog ar 27 Ionawr, gofynnodd Mr Davies i Eluned Morgan sut y mae Llywodraeth Cymru am sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r materion a gafodd eu codi yn yr adroddiad ac a fyddai'n gwneud hynny'n gyhoeddus?

Atebodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan, nad yw'n anarferol i fyrddau iechyd gynnal adolygiadau mewnol ac nad ydyn nhw'n cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru, nac mewn cyfarfodydd bwrdd cyhoeddus.

Ychwanegodd Eluned Morgan bod hynny'n wir "yn enwedig mewn achosion lle y gallai achosi i unrhyw gamau disgyblu gael eu rhagfarnu".

Dywedodd ei bod wedi gofyn i'r bwrdd iechyd ddarparu copi [i Lywodraeth Cymru], gan fod y broses ddisgyblu wedi dod i ben, ond eu bod "eto i'w dderbyn".

'Awyrgylch o ofn'

Mae'r bwrdd iechyd yn mynnu bod canfyddiadau'r adroddiad a'r cynnydd wnaeth ddilyn wedi'u cyflwyno'n swyddogol i bwyllgor pobl a diwylliant y bwrdd iechyd yn 2024, gyda diweddariad pellach wedi'i ddarparu ym mis Mawrth 2025.

Mynna'r bwrdd hefyd bod yr adroddiad "wedi cael ei rannu â swyddogion Llywodraeth Cymru ers hynny".

Fe ddaw'r pryderon diweddaraf yn dilyn cyhoeddi adroddiad mewnol beirniadol arall ym mis Mai'r llynedd - a hynny i fethiannau yn adran lawfeddygol Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Roedd yr adroddiad hwnnw'n disgrifio "awyrgylch o ofn", gyda honiadau o ymddygiad troseddol gan gynnwys cyffuriau a lladrad na chafodd eu herio.

Ym mis Gorffennaf 2025, cafodd bwrdd iechyd cyfan Caerdydd a'r Fro ei osod yn yr ail lefel uchaf o uwchgyfeirio a goruchwylio gan Lywodraeth Cymru - un cam islaw mesurau arbennig.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, roedd hyn oherwydd pryderon ynghylch maint rhestrau aros, ond hefyd oherwydd "cyfres o heriau diwylliannol ac arweinyddiaeth sy'n peri pryder".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.