'Gwiriwch eich cod treth' medd nyrs ar ôl talu bron i £3,000 yn ormod

Roedd bron i £3,000 yn ddyledus i Gemma Belby ar ôl iddi dalu gormod o dreth incwm
- Cyhoeddwyd
Mae nyrs wedi galw ar bobl i wirio eu cod treth ar eu slipiau cyflog, ar ôl iddi ganfod ei bod yn talu llawer gormod o dreth incwm.
Fe wnaeth Gemma Belby o'r Barri ganfod ei bod yn talu bron i ddwywaith gymaint o dreth na'i chydweithwyr ar ôl iddyn nhw fod yn sgwrsio am eu cyflogau.
Dywedodd ei fod wedi cymryd tri mis i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ddatrys y broblem a thalu y swm o bron i £3,000 oedd yn ddyledus iddi.
Ychwanegodd bod y broses wedi effeithio ar ei hiechyd meddwl.
Mae CThEF wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod wedi cywiro'r camgymeriad ac ad-dalu'r arian.
O safbwynt cyfreithiol, cyfrifoldeb unigolion yw sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o dreth.
'Pam dydw i ddim wedi cael gymaint?'
Roedd y fam i bedwar o blant yn trafod gyda'i chydweiwthwyr faint o ôl-daliad roedden nhw wedi'i gael ar ôl i gytundeb newydd am gyflog nyrsys gael ei gyflwyno yng nghanol y flwyddyn ariannol.
Sylweddolodd bod ei chydweithwyr wedi cael llawer mwy a meddyliodd "pam dydw i ddim wedi cael gymaint?"
Fe roddodd Ms Belby wybod i CThEF am y broblem yn mis Hydref ac roedd hi'n gobeithio cael yr arian yn ôl cyn y Nadolig ond roedd hi'n broses anodd, meddai.
Ychwanegodd ei bod wedi cael gwybodaeth oedd yn gwrth-ddweud ei gilydd ac wedi cael dau ffigwr gwahanol iawn o ran faint oedd yn ddyledus iddi.
"O'n i'n ddagreuol drwy'r amser," meddai.
"Roedd hawl gen i gael yr arian yna, ac o'n i eisiau gwario'r arian yna ar y plant adeg y Nadolig ond doeddwn i methu gwneud hynna."
Ychwanegodd ei bod hefyd yn flin bod CThEF yn gwrthod talu unrhyw log iddi ar y swm a wnaeth hi ordalu er iddi godi'r mater am y tro cyntaf ym mis Hydref y llynedd.

Dywed cyd-sylfaenydd y cwmni cyfrifyddu ar-lein Mazuma Money, Lucy Cohen bod sawl rheswm am gael cod treth sy'n anghywir
Ar 19 Ionawr, fe ddywedodd CThEF wrth Ms Belby ei bod hi i fod i gael ad-daliad o £8,194.96 ar gyfer y flwyddyn dreth 2024-25.
Ond o fewn dyddiau i hynny dywedodd Ms Belby fod swyddog wedi cysylltu â hi i ddweud bod y ffigwr yna'n anghywir
Roedd hi angen ailgyfrifo'r ad-daliad gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar ei ffurflen P60 - dogfen sy'n dangos y dreth rydych chi wedi'i thalu ar eich cyflog yn ystod y flwyddyn ariannol.
"Pan ffoniais i ym mis Hydref, 'nes i roi fy ffigyrau P60 iddyn nhw a gallen nhw fod wedi cyfrifo'r ad-daliad bryd hynny a'i roi i mi," meddai.
Ar ôl ailgyfri'r ffigwr, dywedodd CThEF wrthi ei bod mewn gwirionedd i fod i gael ad-daliad o £2,863.04 ac fe dderbyniodd y tâl hwnnw ddiwedd mis Ionawr.
"Fy neges i yw gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwirio'ch cod treth," meddai Ms Belby, sydd eisiau sicrhau nad yw pobl eraill yn gordalu miloedd o bunnoedd.
"Gwnewch yn siŵr ei fod yn iawn oherwydd os yw e wedi digwydd i mi, mae'n sicr yn digwydd i fwy o bobl."
Mae CThEF wedi ymddiheuro gan ddweud eu bod wedi cywiro'r camgymeriad ac ad-dalu'r arian.
Dywedodd y llefarydd bod ad-daliadau'n digwydd yn sydyn fel arfer, ond bod achosion cymhleth yn gallu cymryd hirach.
Sut i wirio'ch cod treth?
Cod treth sy'n penderfynu faint o dreth incwm y mae eich cyflogwr yn ei dynnu oddi ar eich cyflog;
Y cod treth mwyaf cyffredin yw 1257L, sy'n golygu y gallwch ennill £12,570 cyn i chi ddechrau talu treth;
Os ydych chi'n cael buddion cwmni, fel yswiriant iechyd, efallai y bydd y ffigwr yna'n llai;
Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu'r Alban, bydd eich cod treth yn dechrau gyda C neu S;
Gallwch wirio'ch cod treth gan ddefnyddio ap CThEF ac mae esboniad a diffiniadau ar gyfer y gwahanol lythrennau a rhifau ar wefan CThEF.
Dywedodd Lucy Cohen, cyd-sylfaenydd y cwmni cyfrifyddu ar-lein Mazuma, y gall codau treth newid am nifer o resymau - yn eu plith treth o flynyddoedd blaenorol yn ddyledus neu dderbyn incwm o ffynhonnell arall.
"Ond weithiau mae'r cod yn anghywir," meddai, "a gall fod yn wall gweinyddol neu mae wedi'i nodi yn anghywir."
Os yw eich cod treth yn anghywir, mae Cohen yn argymell siarad ag adran ariannol eich cwmni os mai nhw yw eich unig gyflogwr, neu ofyn i CThEM gywiro'r cod.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd28 Ionawr

- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2025
