Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro am wallau iaith mewn ffurflen etholiad

Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Gwynedd yw'r sir gyda'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro ar ôl dosbarthu ffurflenni yn ymwneud ag etholiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyda sawl gwall ynddyn nhw.

Mae'r camgymeriadau ar y ffurflenni ar gyfer trigolion sydd am wneud cais am bleidlais bost yn etholiadau'r DU yn cynnwys teitl heb ei gyfieithu o'r Saesneg a sawl gair wedi'u sillafu'n anghywir.

Dywedodd Nia Powell o bentref Nantmor ger Beddgelert yng Ngwynedd ei bod wedi "synnu a'i rhyfeddu" wrth weld y camgymeriadau, gan eu disgrifio fel "siom arbennig".

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn "ymddiheuro am y camgymeriadau" a'u bod am adolygu eu trefniadau "i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto".

Llun ffurflen cais ar gyfer pleidlais bost yn etholiad senedd y Deyrnas Unedig
Disgrifiad o’r llun,

Mae tri gwall yn yr adran yma o'r ffurflen

Mae yna ddwy adran i'r ffurflen ble mae camgymeriadau wedi'u darganfod. Y cyntaf yw adran 4, sy'n gofyn i bobl am faint hoffen nhw gael pleidlais bost.

Yn yr opsiwn cyntaf sy'n dilyn y pennawd mae'r gair uchafswm wedi'i ysgrifennu heb yr 'w': "am yr uchafsm cyfnod".

Mae'r frawddeg nesaf yn darllen: "tar gyfer yr etholiadau a gynhelir ar", yn hytrach nac "ar gyfer".

A'r frawddeg nesaf: "fam y cyfnod", yn lle "am y cyfnod".

"Maen nhw'n gamgymeriadau hollol ddwl mewn gwirionedd," meddai Nia, 72.

"'Sa chi'n meddwl base nhw yn o leiaf rhoi pethau trwy Cysill er enghraifft i wirio os oedd yna unrhyw gamgymeriadau."

Llun ffurflen cais ar gyfer pleidlais bost yn etholiad senedd y Deyrnas Unedig
Disgrifiad o’r llun,

Doedd teitl adran 5 heb ei gyfieithu o'r Saesneg

Mae'r gwall nesaf i'w weld yn adran 5 o'r ffurflen, sy'n dechrau gyda phennawd Saesneg yn lle'r Gymraeg, sy'n dweud "Date of application".

"Dwi wedi cael fy siomi'n enbyd i ddweud y gwir," meddai Nia. "Mae'n amlwg eu bod nhw wedi cyfieithu o'r Saesneg."

Mae dros 90,000 o drigolion Gwynedd yn siarad Cymraeg yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth (ABB).

Mae hynny'n cyfateb i 74.3% o drigolion y sir, gan olygu mai Gwynedd sydd â'r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg o holl siroedd Cymru.

Dywedodd Nia: "Byddwch chi'n disgwyl i ffurflen swyddogol gan awdurdod mor Gymreig â Gwynedd i fod yn gywir."

Mewn ymateb i'r cwynion am y ffurflen fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Diolch am dynnu ein sylw at y gwallau ieithyddol ar fersiwn Gymraeg o'r papurau pleidlais trwy'r post etholiadau Senedd y DU a ddanfonwyd allan yn ddiweddar.

"Rydym yn ymddiheuro am hyn, a byddwn yn adolygu ein trefniadau i'r dyfodol i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig