Cyfrifiad 2031: Galw am gwestiwn ar allu Cymraeg pobl Lloegr

Arwydd Cymraeg o flaen baner LloegrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2021, nododd tua 538,000 o bobl tair oed neu'n hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae angen cyfrif nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yn Lloegr yn ogystal ag yng Nghymru yng Nghyfrifiad 2031, yn ôl Dyfodol i'r Iaith.

Mae'r mudiad, sy'n ceisio sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn rhan ganolog o fywyd Cymru, yn dadlau y byddai'r newid yn rhoi "darlun llawn o hyfywedd yr iaith".

Daw'r alwad wrth i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar bynciau Cyfrifiad 2031 er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd helpu llywio dyfodol ystadegau am y boblogaeth.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu bod nhw wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn "deall anghenion penodol defnyddwyr ar gyfer y Cyfrifiad nesaf, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg".

Yn y Cyfrifiad diwethaf yn 2021, dim ond pobl dros dair oed oedd yn byw yng Nghymru oedd wedi derbyn cwestiynau ar eu gallu i ysgrifennu, darllen a siarad yr iaith Gymraeg.

Dangosodd y canlyniadau bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 19.0% yn 2011 i 17.8% yn 2021.

Roedd y ffigyrau'n siomedig i Lywodraeth Cymru, sydd â tharged uchelgeisiol o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Prif Weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts, byddai ychwanegu cwestiynau am yr iaith Gymraeg i bobl yn Lloegr "yn gymorth wrth lunio polisïau ar gyfer addysg a darlledu Cymraeg".

"Y rheswm dros yr alwad hon yw er mwyn sefydlu 'nifer y siaradwyr Cymraeg mewn rhannau eraill o'r DU", meddai.

"Gan fod llawer o siaradwyr Cymraeg yn byw ac yn gweithio yn Lloegr, a rhai mewn rhannau eraill o'r DU, byddai'r wybodaeth hon yn gymorth wrth lunio polisïau ar gyfer addysg a darlledu Cymraeg yn y gwledydd hynny, a hefyd yn gymorth i raglenni sy'n ceisio denu siaradwyr Cymraeg i swyddi yng Nghymru."

Dylan Bryn RobertsFfynhonnell y llun, LLUN CYFRANNWR
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Bryn Roberts ydy prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith

Yn ôl Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, sy'n cyhoeddi data myfyrwyr addysg uwch yn flynyddol, roedd bron 30% o fyfyrwyr newydd o Gymru wedi dewis astudio mewn prifysgol tu hwnt i Glawdd Offa yn y flwyddyn academaidd 2023/2024.

Ymysg myfyrwyr o Loegr roedd y canran yn is na 5%, ac yn Yr Alban yn llai na 7%.

Mae Dyfodol i'r Iaith yn dadlau y byddai gofyn i bobl sy'n byw yn Lloegr am eu dealltwriaeth nhw o'r iaith Gymraeg yn "rhoi darlun manwl a chywir o faint o siaradwyr Cymraeg sy'n gadael Cymru" ac yn dangos "union raddfa ac effaith hynny ar ymdrechion i gynllunio gweithlu'r dyfodol".

Mae'r sefydliad hefyd yn dweud y byddai'n gwneud yn rhoi syniad o'r niferoedd sy'n "dewis aros i fyw a gweithio yn Lloegr yn hytrach na dychwelyd i Gymru".

"Byddai'n rhoi mesur o lwyddiant ymdrechion ein llywodraeth i'w ceisio i ddychwelyd i Gymru, mewn gwirionedd", ychwanegon nhw.

'Deall anghenion penodol'

Mae'r ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031, a lansiwyd ar 28 Hydref 2025, yn rhedeg hyd at 4 Chwefror 2026 ar wefan Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mewn datganaid dywedodd llefarydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu bod "wrthi'n cynllunio ar gyfer Cyfrifiad 2031".

"Ym mis Hydref, fe wnaethon ni lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar bynciau i ddeall anghenion penodol defnyddwyr ar gyfer y Cyfrifiad nesaf, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg.

"Bydd hyn yn helpu i lywio pa bynciau fydd yn cael eu cynnwys."