Bwriad i ddymchwel pont droed Llyn Trawsfynydd yn 'siomedig iawn'

Cafodd y bont droed ei hagor yn yr 1920au, wrth greu'r llyn i wasanaethu pwerdy dŵr Maentwrog
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o bobl Trawsfynydd yn siomedig gyda chynlluniau i ddymchwel pont droed hanesyddol sy'n croesi ar draws y llyn.
Nid ydy'r bont chwarter milltir o hyd ar draws Llyn Trawsfynydd wedi bod ar agor i'r cyhoedd ers Awst 2022, oherwydd pryderon am ei diogelwch.
Mae'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA) a'r Gwasanaeth Adferiad Niwclear (NRS) wedi dweud wrth Cymru Fyw eu bod ar hyn o bryd "yn datblygu cynlluniau ar gyfer dymchwel y bont yn ddiogel, gan gynnwys ystyriaeth fanwl o'r dull fwyaf priodol".
"Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ar unrhyw gamau yn y dyfodol y tu hwnt i hyn," meddai'r llefarydd.
Ond mae 'na bryderon yn lleol am ddymchwel y strwythur hanesyddol, a'r effaith ar y pentref yn ehangach.

Mae'r bont wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers Awst 2022
Cafodd y bont ei hagor yn yr 1920au, pan gafodd y llyn ei greu i wasanaethu pwerdy dŵr Maentwrog - cynllun enfawr ar y pryd.
Gyda thir amaeth wedi'i golli, cafodd y bont ei chodi i gadw'r cysylltiad rhwng pentref Trawsfynydd a chymunedau ar ochr draw'r llyn newydd.
Mae NDA yn gorff cyhoeddus a nhw sy'n berchen ar safle niwclear Trawsfynydd, ond mae'n cael ei ddadgomisiynu gan NRS ar eu rhan.
Ddydd Mercher, cyhoeddodd Cyngor Gwynedd eu bod eisiau troi safle'r hen orsaf niwclear yn ganolfan arloesi newydd mewn prosiect gwerth tua £20m.
Eiddo NDA ydy'r llyn a'r bont hefyd, ac maent wedi cael eu rhoi ar les i NRS - cwmni y maent yn berchen arno.

"Does 'na neb o'r pentra' 'di byw diwrnod heb y bont yma," meddai Iwan Jones
Dywedodd Iwan Jones, aelod o Gyngor Cymuned Trawsfynydd, ei fod yn "siomedig iawn" gyda'r bwriad i ddymchwel y bont.
"Ma'r bont fel y ma' hi yn reit eiconig yn yr ardal, yn boblogaidd iawn yn lleol a ma' bobl o ffwrdd yn edrych ymlaen at fynd ati.
"Os fasa nhw'n adeiladu rhywbeth yn ei le o - fasa fo'n rwbath, ond ma'n edrych fatha bo' nhw ddim am 'neud hynny.
"Dwi'm yn gweld nhw'n adeiladu pont arall, 'da ni heb gael unrhyw beth ganddyn nhw sy'n pwyntio at hynny."
Hoffai Mr Jones weld yr hen bont yn cael ei thrwsio, oherwydd ei bod hi'n "unigryw" ac yn sefyll ers bron i ganrif: "Does 'na neb o'r pentra' 'di byw diwrnod heb y bont yma."

Dywedodd Iwan Jones fod cael gwared â'r bont yn "stopio pobl rhag dod yn syth i mewn i'r pentra'" a'i sopau
Un effaith negyddol o ganlyniad i gael gwared â'r bont fyddai bod pobl sy'n mynd am dro yn colli mynediad at y llyn, yn ôl Mr Jones.
Dywedodd fod tripiau ysgol yn arfer mynd yno, ond bod hynny ddim yn bosib bellach.
"Mae o hefyd yn lwybr cyhoeddus. Os fysa 'na lwybr cyhoeddus ar dir - gei di byth warad ohona' fo.
"Ond am ryw reswm ma' hwn yn teimlo'n wahanol ac oedd 'na lwybr cyhoeddus yma cyn y llyn hefyd."

Mae Mr Jones hefyd yn berchennog busnes siop a llety, a disgrifiodd fod yno "hen siarad am y peth wedi bod yn y siop ers blynyddoedd bellach".
"Ma' lot sy'n dod i aros yn y bunkhouse a'r peth cynta' ma' nhw'n 'neud ydy chwilio am lefydd i gerdded ac maen nhw'n mynd yn syth at y bont."
Cael eu siomi'n syth bod y bont ar gau y mae'r ymwelwyr bellach, meddai.
Ychwanegodd bod effaith sicr ar dwristiaeth, oherwydd bod llwybr y bont yn "arwain cerddwyr yn syth i ganol y pentref".
"Rŵan, mae'r llwybr yn mynd heibio'r pentra' ac ma'n stopio pobl rhag dod yn syth i mewn," meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Elfed Powell Roberts fod y bont yn adnodd "hanesyddol" a phwysig iawn i'r ardal
Yn ôl y Cynghorydd Elfed Powell Roberts, sy'n cynrychioli Trawsfynydd, Gellilydan a Maentwrog, mae'r bont yn "adnodd pwysig iawn i'r ardal".
"Ma' bobl leol eisiau gwbo' be' sy'n digwydd, ond dydyn nhw ddim yn cael digon o wybodaeth gan yr NRS a'r NDA," meddai.
Dywedodd y cynghorydd sir fod y "penderfyniadau yn cael eu gwneud yng nghoridora' Llundain, yn anffodus", er y gefnogaeth yn lleol i gadw'r bont.
"'Swn i'n hoffi i'r bobl leol gael be' ma' nhw angen, mae o'n adnodd hanesyddol ynde."
Nid oedd yn gwbl sicr beth fyddai'r ateb perffaith, ond awgrymodd y byddai modd adeiladu pont newydd neu drwsio'r un sydd eisoes yno.
"Mae 'na deimlad cryf i'w chadw hi'n lleol. Ma' eisiau edrych ar bob avenue mewn ffordd, cyn g'neud dim byd pendant."

Cafodd y bont ei chodi'n wreiddiol i gadw'r cysylltiad rhwng pentref Trawsfynydd a chymunedau ar ochr draw'r llyn
Bwriad NRS ydy gwneud cais am ganiatâd cynllunio i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth i'r cynlluniau ddatblygu.
Mae'r awdurdod wedi cadarnhau nad oes cais cynllunio wedi ei gyflwyno hyd yn hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran NDA ac NRS fod y bont droed "wedi'i chau oherwydd pryderon strwythurol a'r risg i ddiogelwch y cyhoedd".
"Diogelwch fydd ein blaenoriaeth uchaf bob amser ac roedd cau yn angenrheidiol i amddiffyn aelodau'r cyhoedd.
"Rydym ar hyn o bryd yn datblygu cynlluniau ar gyfer dymchwel y bont yn ddiogel, gan gynnwys ystyriaeth fanwl o'r dull mwyaf priodol.
"Nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ar unrhyw gamau yn y dyfodol y tu hwnt i hyn.
"Byddwn yn rhoi diweddariadau i randdeiliaid wrth symud ymlaen, gan gofio ein bod yn cael ein hariannu gan drethdalwyr a'n prif nod ydy lleihau peryglon a dadgomisiynu safleoedd niwclear y DU."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd11 Chwefror
