Dedfrydu hyfforddwr gyrru oedd yn feddw ar ei ffordd i roi gwers

Fe wnaeth prawf anadl amlygu bod Timothy Howells bron i bedair gwaith dros y terfyn alcohol
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr gyrru o Sir Gâr wedi cael ei ddedfrydu ar ôl cael ei ganfod bron i bedair gwaith dros y terfyn alcohol tra ar ei ffordd i roi gwers.
Fe gafodd Timothy Howells, 54 o Borth Tywyn, ei arestio ar 20 Chwefror ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol.
Roedd hynny wedi i'r heddlu gael eu galw i wrthdrawiad un cerbyd ar yr A484 rhwng Pen-bre a Chydweli am 07:38, a chanfod car mewn ffos ar ymyl y ffordd.
Fe gafodd Howells ddedfryd yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mawrth o wyth wythnos o garchar, wedi ei gohirio am 18 mis.
Clywodd y llys fod Howells yn ymddangos yn feddw pan gyrhaeddodd yr heddlu y gwrthdrawiad, a bod prawf anadl cychwynnol wedi awgrymu lefel o 110mg o alcohol i bob 100ml o anadl.
35mg yw'r terfyn cyfreithlon.
Yn fuan wedi hynny tra yn y ddalfa, fe wnaeth ail brawf anadl amlygu lefel o 132mg - bron i bedair gwaith y lefel gyfreithiol.
Wrth gael ei holi gan swyddogion heddlu, dywedodd Howells ei fod ar ei ffordd i godi rhywun ar gyfer gwers gyrru.
Dywedodd y Prif Arolygydd Christina Fraser o Heddlu Dyfed-Powys bod Howells "mewn sefyllfa o gryn ymddiriedaeth a chyfrifoldeb".
Ychwanegodd bod swyddogion plismona'r ffyrdd wedi "gweithio'n gyflym... i sicrhau bod darpar yrwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill wedi cael eu diogelu rhag unigolyn oedd yn peri risg ddifrifol o niwed".