Gallai gyrwyr dan hyfforddiant orfod aros chwe mis cyn cael prawf

Mae'r llywodraeth am weld gostyngiad o 65% yn nifer y marwolaethau a damweiniau difrifol erbyn 2035
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib y bydd rhaid i yrwyr dan hyfforddiant aros am isafswm o chwe mis cyn cael prawf gyrru dan gynlluniau newydd Llywodraeth y DU.
Mae Strategaeth Diogelwch Ffyrdd newydd y llywodraeth hefyd yn golygu y bydd angen i yrwyr dros 70 oed gael profion llygaid cyson.
Mae cynlluniau hefyd i ostwng y terfyn yfed a gyrru i gyd fynd â'r Alban.
Gobaith gweinidogion yw gweld gostyngiad o 65% yn nifer y marwolaethau a damweiniau difrifol erbyn 2035.
'Un o bob 20 gyrrwr dros derfyn alcohol neu gyffuriau'
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
Nifer o gyfrifon sy'n gwerthu profion gyrru ar-lein yn 'ffug' - hyfforddwr
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Roedd bron i chwarter y marwolaethau neu anafiadau difrifol gafodd eu hachosi mewn gwrthdrawiadau yn 2024 yn ymwneud â gyrwyr ifanc.
Mae Llywodraeth Prydain yn credu y byddai gorfodi gyrwyr i aros am gyfnod penodol rhwng gwneud eu prawf theori a'r prawf ymarferol yn helpu datblygu eu sgiliau, gan gynnwys gyrru dan amgylchiadau amrywiol.
Fe fydd yr Adran Drafnidiaeth yn cynnal trafodaethau ar union hyd y cyfnod yma - gyda thri mis a chwe mis yn cael ei ystyried.
Mae gwaith ymchwil mewn gwledydd eraill yn awgrymu y gallai cyfnodau dysgu o'r fath leihau nifer y gwrthdrawiadau o hyd at 32%.

Bu farw Olivia Alkir yn dilyn y digwyddiad rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion ym mis Mehefin 2019
Nôl yn 2019 cafodd Olivia Alkir, oedd yn 17 oed, ei lladd mewn damwain car difrifol yn ardal Rhuthun.
Cafodd dau fachgen o Sir Ddinbych eu carcharu am bum mlynedd yr un am achosi marwolaeth Olivia.
Dim ond newydd basio eu profion gyrru oedd y bechgyn, a chlywodd y llys bod y ddau ffrind yn rasio pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Ers ei marwolaeth mae mam Olivia, Jo, wedi bod yn ymgyrchu ac yn ymweld ag ysgolion er mwyn addysgu pobl ifanc.
Un sydd wedi bod yn cefnogi Jo yw Eluned Yaxley o Bwll-glas ger Rhuthun - roedd ei merch Non yn ffrind gorau i Olivia.
Dywedodd fod effaith y digwyddiad yn dal i effeithio ar y gymuned ehangach a bod enw Olivia "dal yn fyw".
Mesurau 'ddim yn mynd yn ddigon pell'
Wrth ymateb i'r strategaeth newydd ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, awgrymodd nad oedd y mesurau yn mynd yn ddigon pell.
"Tra bo' nhw'n argymell bod gyrwyr sy'n dysgu yn gorfod aros chwe mis cyn cael prawf gyrru, 'dydi o ddim yn nodi os ydi hynny'n cynnwys gwersi.
"'Dan ni o'r farn y dylen nhw fod yn derbyn gwersi - hyn a hyn o oriau gyda rhywun sydd â phrofiad o roi gwersi gyrru.
"Hefyd i unrhyw un sy'n dysgu dreifio, pa bynnag oed, dylai pob car maen nhw'n ei yrru fod a black box ynddo fo."
Mae rhai ymgyrchwyr hefyd yn galw am rwystro pobl sydd newydd basio eu prawf rhag cario teithwyr eraill.
"Yn achos Olivia, roedd y car yr oedd hi'n teithio ynddo fo - y bore hwnnw oedd yr unigolyn wedi pasio'i brawf gyrru ag oedd ganddo fo bump yn y car.
"...I yrrwr newydd sydd eisiau plesio, a dod â'r peer pressure o rasio ac ati mewn iddo fo efo ffrindiau - dyle hynny ddim fod yr achos. Dyle' 'ne ddim unigolyn arall - oni bai ei fod o'n rhiant - fod yn y car gyda'r unigolyn sydd newydd basio ei brawf gyrru."

Mae Raymond Williams yn gyn-sarjant traffig gyda Heddlu Gogledd Cymru
Un sydd yn croesawu'r cynlluniau yw Raymond Williams - cyn-sarjant traffig gyda Heddlu Gogledd Cymru sydd bellach yn hyfforddwr gyrru ac yn cynnal ymchwiliadau i ddamweiniau ffordd.
"Dwi'n falch bod y strategaeth yma'n eithaf uchelgeisiol - y 65% erbyn 2035 - ond mi fydd 'na ambell un yn siomedig bod o ddim yn mynd mor bell ag oedden nhw'n gobeithio o ran y graduated driving licences.
"Dwi'n hapus bod rhywun yn mynd i gael eu gorfodi i gael prawf golwg pan maen nhw'n 70. Ar hyn o bryd mae o'n wirfoddol - pan 'da chi'n arwyddo i ofyn am estyniad o'ch trwydded 'da chi'n arwyddo i ddweud bod dim wedi newid yn eich golwg chi.
"Dwi'n hun wedi delio gyda damweiniau pan o'n i'n aelod o Heddlu'r Gogledd, a dwi'n cydweithio gyda cyn-sarjant yn Lancashire a welodd dair damwain angheuol a gafodd eu hachosi gan bobl yn eu 70au a fethodd y prawf golwg wedi'r ddamwain, sy'n drist iawn."
Ychwanegodd Mr Williams y byddai'n hoffi gweld mwy o bwyslais ar gefnogi gyrwyr ar ôl iddyn nhw wneud y prawf.
"Dwi'n dysgu ambell un i yrru, a dwi'n dweud ar ôl pasio mai 'rŵan 'da chi'n dysgu gyrru go iawn, pan 'da chi ar y ffordd heb neb wrth eich ochr yn dweud wrthoch chi be i neud'.
"Fyswn i'n licio os fysa'r strategaeth yn edrych mwy ar bethau ar ôl y prawf yn hytrach nag ella system bo rhywun yn gorfod cymryd chwe mis cyn trio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.