Nifer o gyfrifon sy'n gwerthu profion gyrru ar-lein yn 'ffug' - hyfforddwr

Mae angen "cau lawr y gwasanaethau ffug", medd Rhydian Hughes
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr gyrru wedi rhybuddio bod nifer o gyfrifon sy'n gwerthu profion gyrru ar-lein, yn rhai ffug sy'n twyllo pobl am arian.
Mae Rhydian Hughes o Bentrefoelas yn rhedeg Ysgol Yrru Cymru a dywedodd fod yna farchnad sy'n "ffrwythlon" i brynu profion gyrru a'u gwerthu am bris llawer uwch.
£62 ydy cost prawf gyrru yng Nghymru, ond mae'n bosib bod 'na rai yn talu bron i dair gwaith hynny.
Rhestrau aros hir, mae'n debyg, sy'n golygu bod pobl yn troi at gyfrifon ar-lein i gael profion cynt.
Mewn ymateb, dywedodd y DVSA eu bod nhw'n cymryd "camau pendant" i leihau amseroedd aros ar brofion gyrru drwy wneud mwy o brofion ar gael.
Maen nhw hefyd yn y broses o newid y system archebu i sicrhau ei fod yn deg i bawb.

"Mae'n rhaid ystyried y goblygiadau ariannol i rieni neu bobl ifanc sy'n talu eu hunain," yn ôl Menna
Mae'r amseroedd aros am brofion gyrru yn amrywio ar draws Cymru, ond ar gyfartaledd mae'n rhaid aros pedwar mis.
Yn ôl un ap sy'n defnyddio data DVSA i gadw cofnod o'r amserau aros diweddaraf, wrth chwilio fore Gwener roedd profion ar gael yn Y Rhyl o fewn pythefnos, ac yn Abertawe o fewn wythnos.
Ond i lefydd eraill, fel Bangor, mae'n stori wahanol - lle mae 'na aros o 22 wythnos, ac ym Merthyr 23 wythnos – yn agos i chwe mis.
Dros y dyddiau diwethaf, mae Newyddion S4C wedi bod mewn cysylltiad gyda sawl cyfrif ar Facebook sy'n honni eu bod nhw'n gallu bwcio profion gyrru yn gynnar er mwyn i ddysgwyr osgoi'r aros.

Mae prawf gyrru Izabela eisoes wedi cael ei drefnu
O fewn munudau i gysylltu, roedden nhw'n cynnig sawl prawf gyrru yng Nghaerdydd wythnos nesaf am tua £150.
Mae nifer o'r cyfrifon yma'n defnyddio "bots", sy'n medru bwcio bloc o brofion mewn mater o eiliadau arlein a'u gwerthu nhw ymlaen am bris uwch.
Dywedodd Rhydian Hughes bod angen "cau lawr y gwasanaethau ffug sydd yn cynnig rhoi profion fel fory ac ynghynt".
Mae'n dweud bod angen tynnu sylw at y broblem ac y dylai pobl archebu profion gyrru drwy wefannau swyddogol.

"Mae pawb just eisiau pasio yn syth, achos chi eisiau cael y rhyddid i ddreifio achos mae'n helpu pobl yn eu bywydau," medd Mia
Mae rhai o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd wedi cael profiadau gwahanol o aros am brawf gyrru.
Dywedodd Mia, 17, bod ei chyd-ddisgyblion yn ymwybodol o un athro sy'n archebu nifer o brofion gyrru'r un pryd.
Fe ddechreuodd ei gwersi ym mis Medi a chael prawf gyrru yn syth ar gyfer mis Ionawr.
Er ei bod hi'n lwcus, meddai, mae'r sefyllfa yn "annheg" i nifer.
"Mae'n sefyllfa mor anodd i fod mewn. Mae pawb just eisiau pasio yn syth, achos chi eisiau cael y rhyddid i ddreifio achos mae'n helpu pobl yn eu bywydau."
'Rhaid ystyried y goblygiadau ariannol i rieni'
Mae Menna, 18, wedi bod yn dysgu ers rhai misoedd, ond mae ganddi bedwar mis arall i aros tan ei phrawf.
Dywedodd fod pobl yn cael profiadau gwahanol yn ddibynnol ar yr hyfforddwr gyrru.
"Mae'n rhaid ystyried y goblygiadau ariannol i rieni neu bobl ifanc sy'n talu eu hunain," meddai.
"Mae misoedd a misoedd yn fwy o wersi yn £200 y mis ac mae hynny'n edrych ar tua £1,000 yn ychwanegol os na byse' chi wedi cael prawf yn gynharach."
Yn ôl Izabela, 17, mae ei phrawf gyrru hi wedi ei drefnu ar gyfer mis Mai.
"Fi di cael 10 gwers yn barod efo fy athro i a fi'n bwcio nhw mewn slots o 10 awr yr un.
"Mae'n mynd i gostio llawer mwy na os byswn yn gallu cael prawf yn gynharach," ychwanegodd Izabela.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.