Dringwr wedi marw yn Sir Benfro a dau arall yn yr ysbyty

Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac Ambiwlans Awyr Cymru eu galw i helpu'r tri dringwr
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau fod dringwr wedi marw a dau arall yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad ar glogwyni Gofan (St Govan's Head) yn Sir Benfro ddydd Iau.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw tua 16:25 ar ôl pryder am ddiogelwch tri pherson ar y clogwyni.
Dydy'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus ac mae teulu'r dringwr wedi cael gwybod.
Cafodd dau ddringwr eu cludo i'r ysbyty ag anafiadau na sy'n peryglu eu bywyd.
Cafodd timau achub Gwylwyr y Glannau o Abergwaun, Gofan a Dinbych-y-Pysgod eu galw yn ogystal â hofrenyddion Gwylwyr y Glannau o Iwerddon ac Ambiwlans Awyr Cymru i chwilio am y tri dringwr.

Mae clogwyni calchfaen Gofan hyd at 40m o uchder uwchben y môr
Mae clogwyni calchfaen Gofan hyd at 40m o uchder uwchben y môr ac mae tua 300 o lwybrau dringo yn yr ardal - a rhai'n cael eu disgrifio'n lwybrau anodd iawn.
Mewn rhai ardaloedd mae yna gerrig ansefydlog.
Does dim modd dringo'r clogwyni yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf gan fod adar y môr yn nythu yno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.