Llifogydd yn achosi problemau teithio yng Nghymru ddydd Mawrth

NiwgwlFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Cuffern James
Disgrifiad o’r llun,

Ffordd dan ddŵr yn ardal Niwgwl, Sir Benfro, ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae teithwyr yn wynebu problemau posib ledled Cymru ddydd Mawrth, gyda threnau wedi'u canslo a rhai ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio bod rhai gwasanaethau trên wedi cael eu canslo oherwydd llifogydd ar y rheilffordd rhwng Abertawe a Llandrindod.

Mae gwasanaethau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog hefyd yn wynebu oedi, a doedd dim modd i drenau redeg rhwng Llanrwst a Blaenau.

Gellir gweld y diweddaraf ar fap byw, dolen allanol gwefan Trafnidiaeth Cymru.

Mae rhai ffyrdd wedi bod ar gau fore Mawrth yn sgil y dŵr, gan gynnwys yr A499 yng Ngwynedd, rhwng gorsaf betrol Llanbedrog a'r A497.

Yn y de-orllewin mae'r A483 Ffordd Caerfyrddin, yr A4118 a'r A4217 wedi cau yn ardal Abertawe.

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybuddion mewn grym ar gyfer canolbarth a de Cymru ddydd Mercher a dydd Iau

Roedd rhai rhybuddion llifogydd yn parhau mewn grym gan Gyfoeth Naturiol Cymru [CNC] fore Mawrth.

Yn eu plith roedd ambell rybudd coch, sy'n golygu bod disgwyl llifogydd a bod angen gweithredu ar frys.

Mae sawl rhybudd i fod yn barod am lifogydd posib wedi bod mewn grym hefyd. Mae'r manylion ar gael ar wefan CNC, dolen allanol.

Nid oes rhybudd tywydd wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer dydd Mawrth, ond mae rhybuddion melyn am law mewn grym unwaith eto ddydd Mercher a dydd Iau.

Mae'r rheiny'n weithredol ar gyfer holl siroedd y canolbarth a'r de, rhwng 10:00 tan hanner nos ddydd Mercher, ac yna rhwng 10:00 a 21:00 ddydd Iau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig