David Davies yn ennill ei rownd gyntaf ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd

144 yw safle David Davies yn rhestr chwaraewyr dartiau gorau'r byd
- Cyhoeddwyd
Mae David Davies wedi cyrraedd ail rownd Pencampwriaeth Dartiau'r Byd wedi buddugoliaeth ddydd Sadwrn.
Yn ei gêm gyntaf erioed yn y bencampwriaeth, fe gurodd Davies Mario Vandenbogaerde o dair set i ddim.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu y bydd Davies yn wynebu Luke Littler yn y rownd nesaf - ar ôl i Littler guro Darius Labanauskas o Lithuania ar noson agoriadol y bencampwriaeth ddydd Iau.
Mae Littler, sef chwaraewr gorau'r byd ar hyn o bryd, yn amddiffyn ei deitl ar ôl ennill y bencampwriaeth y llynedd.
Ond mae un o gyn-chwaraewyr Davies yn ffyddiog bod ganddo "ddigon o dalent i guro Littler."

Mi fydd Davies yn wynebu Luke Littler yn y rownd nesaf
Roedd Davies, sy'n dod o Ddinbych yng ngogledd Cymru, wedi cymwhyso i chwarae yn y gystadleuaeth ar ôl ennill twrnamaint rhagbrofol y DU ac Iwerddon ddechrau fis Tachwedd.
Yn 40 oed, mae Davies wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn rhannu ei amser rhwng ei swydd lawn amser o fewn y gwasanaeth iechyd a chwarae yn ail haen y PDC (The Professional Darts Corporation).
Y flwyddyn ddiwethaf yw ei flwyddyn fwyaf llwyddiannus yn y byd dartiau hyd yma.
Chwaraeodd ran allweddol yn llwyddiant Cymru yng nghwpan y byd yn Ne Corea, enillodd y PDC Challenge Tour a'r Red Dragon Champion of Champions.
Yna fe ddaeth ei lwyddiant diweddaraf yn y twrnamaint rhagbrofol oedd wedi ei gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth Dartiau'r Byd.
Roedd Davies yn sicr o ennill £15,000, hyd yn oed pe byddai wedi colli'r rownd gyntaf ond nawr mae wedi ennill £25,000.
Mi fydd enillydd y bencampwriaeth yn ennill £1 miliwn.
Bydd ail rownd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng 20 a 23 Rhagfyr.
Y Cymro sy'n chwarae ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.