'Y pleser o newid bywydau pobl drwy aduno teuluoedd'

Glesni EvansFfynhonnell y llun, Glesni Evans
Disgrifiad o’r llun,

Glesni Evans

  • Cyhoeddwyd

"Dwi'n meddwl fod fi'n rili lwcus i gael bod yn ran mawr o rhywbeth sy'n newid bywydau pobl."

Mae Glesni Evans o Gwm Gwaun wedi aduno cannoedd o deuluoedd a gollodd cysylltiad yn dilyn mabwysiadu.

Ymhlith y teuluoedd hynny mae rhai straeon cyfarwydd i ni o raglenni Gwesty Aduniad, Long Lost Family a Hotel Reunion lle mae Glesni'n gweithio fel arbenigwr mabwysiadu.

Ond mae'r mwyafrif wedi digwydd oherwydd gwaith bob dydd Glesni a'i chwmni, Adoption Finder, sy'n chwilio am ac yn aduno pobl sy' wedi eu mabwysiadu gyda'u teuluoedd geni.

Er fod awdurdodau lleol yn gallu helpu chwilio am deuluoedd, Glesni yw'r unig ymgynghorydd mabwysiadu yng Nghymru sy'n gwneud y gwaith yma'n breifat.

Weithiau mae hynny'n golygu dod o hyd i'r rhieni biolegol neu fel arall mae'n rhaid iddi ddod o hyd i blentyn sy' wedi cael ei fabwysiadu.

Meddai Glesni: "Mae fe'n waith rili diddorol a s'ym un diwrnod yr un peth a'r llall.

"Fel arfer mae dod o hyd i deuluoedd geni yn rhywbeth mae pobl yn meddwl am trwy eu bywyd nhw a'n meddwl 'dwi'n mynd i neud hyn rhyw ddydd'. Ac mae'n rhywbeth mawr i fod y person sy'n gwneud i hynny ddigwydd.

"Dwi'n lwcus bod pobl yn trystio fi gyda storis personol nhw a bod fi'n cael y cyfle i neud hwn.

"Be' sy'n galed yw pan mae pobl ddim ishe cyswllt. Falle mae pobl wedi meddwl amdano ers blynyddoedd ond dyw'r person arall ddim ishe cysywllt – mae'n gallu bod yn anodd."

Glesni Evans Ffynhonnell y llun, Glesni Evans
Disgrifiad o’r llun,

Glesni Evans

Ar sgrin

Mae Glesni wedi gweithio fel ymgynghorydd ar straeon mabwysiadu ar y teledu hefyd, gan gynnwys yn ddiweddar ar gyfres Riot Women ar BBC1 a Con Mum ar Netflix lle roedd Glesni'n cynghori ar sut oedd y broses o gyswllt yn gweithio ac hefyd y cymhlethdod emosiynol o aduno teuluoedd.

A bu diolch i Glesni am ei gwaith o lwyfan seremoni y Baftas yn 2024 pan enillodd y rhaglen deledu Ellie Simmonds: Finding my Secret Family wobr.

Glesni oedd wedi dod o hyd i fam geni Ellie ac roedd y nofiwr Paralympaidd wedi diolch iddi o'r llwyfan.

Mae stori Ellie'n un o nifer o rai trist mae Glesni wedi gweithio arnynt: "Mi wnaeth mam Ellie ddarganfod fod dwarfism ganddi a 'gath hi ei mabwysiadu ond mae hi'n berson positif ac yn teimlo fod mabwysiadu wedi bod yn rhywbeth grêt iddi yn y pen draw."

Glesni gyda Ellie Simmonds a chynhyrchwyr yr rhaglenFfynhonnell y llun, Glesni Evans
Disgrifiad o’r llun,

Glesni gyda Ellie Simmonds a chynhyrchwyr yr rhaglen

Realiti

Mae aduno teuluoedd ar ôl i fabwysiadu ddigwydd yn aml yn gymhleth ac yn emosiynol, fel mae Glesni yn esbonio: "Weithie mae pobl yn cwrdd a dyw e ddim fel ti'n meddwl fydd e, dyw e ddim yr happy ever after.

"Falle bod ffantasi gyda chi o beth mae rhieni geni chi'n mynd i fod fel a wedyn maen nhw'n wahanol i beth chi wedi meddwl.

"Mae lot o bobl yn cael siom ac mae lot o bobl yn stryglo gyda hynny.

"I'r fam geni mae rhoi'r babi lan yn trawmatig ac mae hyn yn dod nôl a'r atgofion hynny pan maen nhw'n neud y cyswllt a dod i 'nabod ei gilydd.

"Mae straeon anhygoel 'da fi le mae pobl wedi mynd ymlaen a chael perthynas arbennig gyda'u teulu geni nhw. Ond y peth anodd weithie yw dyw rhywun ddim ishe cyswllt a ddim wedi dweud wrth teulu nhw.

"Weithie mae pobl yn aros trwy bywyd nhw achos dyw nhw ddim ishe ypsetio eu mabwysiadwyr nhw. Wedyn maen nhw'n neud cysywllt a darganfod fod rhywun wedi marw."

Gwaith ditectif

Gweithiwr cymdeithasol yw Glesni felly mae'n rhoi cymorth gyda'r cyswllt a gyda'r emosiynau sy' ynghlwm wrth y daith.

Ond mae dipyn o waith ditectif hefyd yn rhan o'r swydd gyda gwaith pori drwy cofnodion i gael mwy o wybodaeth: "Mae ffeil mabwysiadu yn help mawr ac yn starting point bob tro - mae fe'n rhoi gwybodaeth am pam oedd y person wedi cael ei mabwysiadu a beth oedd yn mynd ymlaen ar y pryd.

"Os dwi'n chwilio am fam geni dwi'n edrych os ydy hi erioed wedi priodi, edrych am y cyfeiriad ac electoral rolls. Dwi o hyd yn dechrau o'r amser gath y person ei mabwysiadu ac yn gweithio ymlaen. Y bwriad yw cael cyfeiriad i fod yn gallu ysgrifennu llythyr sensitif i'r fam geni."

Weithiau mae pobl yn anhapus iawn i glywed gan Glesni: "Mae rhai pobl yn dweud bod nhw ddim ishe cael cyswllt ac yn grac bod nhw wedi cael eu ffeindio, yn enwedig os dyw nhw ddim wedi dweud wrth y teulu.

"Roedd mabwysiadu yn rhywbeth cyfrinachol – oedd plant yn cael eu mabwysiadu achos bod y fam wedi cael plentyn tu fas i briodas. Mae pobl wedi cadw'r gyfrinach 'na drwy eu bywyd."

Un o heriau pennaf gwaith Glesni yw pan mae angen dod o hyd i deuluoedd plentyn caffael (foundling).

Meddai am un o'r straeon mwyaf anhygoel mae hi wedi gweithio arni: "Dwi wedi helpu menyw yn ei 90au oedd wedi ei gadael ar drên cyn yr Ail Ryfel Byd.

"Drwy Ancestry DNA a drwy rhywun dwi'n gweithio gyda'n agos 'naethon ni ddarganfod pwy fyddai ei mam hi wedi bod a gwneud cyswllt gyda'i hanner brawd a'i chwaer. Cafodd hi ei darganfod ar y trên yn 1926 ac mae hi yn 99 oed nawr ac mae hi dal i weld ei hanner brawd a'i chwaer.

"Roedd y fam wedi dweud wrth ei theulu bod hi wedi cael plentyn yn ystod y rhyfel ond fod y plentyn wedi marw. Gyda foundlings sym unrhyw wybodaeth am pwy yw'r fam na'r tad geni.

"Mae pethau fel Ancestry DNA wedi rhoi cyfle i bobl ffeindio mas pwy yw teulu geni nhw am y tro cyntaf erioed. Mae hwnna wedi newid pethau i lot o bobl."

Ac mae'r gwaith yn teimlo'n arbennig o werth chweil ar y dyddiau hynny pan mae Glesni'n rhan o'r aduniad, meddai: "Mae fe'n amazing a dwi wastad yn meddwl am nature vs nurture.

"Dyna beth dwi wedi dysgu o'r swydd yma yw faint mor debyg mae rhai pobl er bod nhw ddim wedi cael eu magu gyda'i gilydd.

"Mae genetics yn anhygoel."

Wrth i Glesni, sy' ei hun yn fam i ferch a dau set o efeilliaid, helpu mwy a mwy o deuluoedd, mae wedi sylweddoli fod angen cymorth ar bobl wrth aduno gyda'i teulu.

O ganlyniad mae wedi cychwyn elusen llynedd o'r enw No Shame foundation sy'n cynnig therapi i bobl pan fo angen.

Meddai: "Mae'n gallu bod yn trawma mawr beth maen nhw wedi bod trwy. Dyw pobl ddim yn deall hynny a'n meddwl fod mabwysiadu yn rhywbeth positif o hyd.

"Mae lot o bobl yn stryglo gyda fe a'n stryglo i ddeall pam gaethon nhw eu mabwysiadu. Maen nhw'n cario hynny gyda nhw drwy eu bywyd nhw.

"Mae i wneud gyda hunaniaeth a ddim gwybod pwy yw nhw – mae cyswllt yn rhywbeth mawr i bobl a weithiau dyw'r aduniad ddim yn mynd fel oedden nhw wedi dychmygu. Mae'n bwysig fod cymorth 'na i bobl."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb