Richard Ellis: Y gwir tu ôl i stori Dad-cu

  • Cyhoeddwyd
Richard EllisFfynhonnell y llun, S4C

Mae stori ei dad-cu Thomas 'Tommy' Jones yn un mae'r actor Richard Ellis wedi clywed ar hyd ei oes.

Mae'r hanes am sut wnaeth y dyn ifanc o Rydaman ddefnyddio manylion Tommy Jones arall er mwyn mynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn un sy' wedi ei hadrodd i lawr y cenedlaethau.

Felly pan ddaeth y cyfle drwy raglen Gwesty Aduniad Nadolig ar S4C i ddod o hyd i'r gwir tu ôl y stori, mi wnaeth Richard a'i frawd Rob achub ar y cyfle, fel mae'n sôn wrth Cymru Fyw: "Oedden ni'n gwybod fod Tad-cu wedi mynd i'r rhyfel yn lle rhywun arall gyda'r un enw.

"Oedd Dad-cu wedi mynd achos oedd e'n ifanc a dim byd i golli.

"Un deg saith oedd e - ac oedd hwnna'n rhy ifanc yn ôl y gyfraith ar y pryd, oedd rhaid i chi fod yn 19 i fynd i ymladd.

"Ond oedd e'n rhy ifanc ac wedi defnyddio manylion rhywun arall gyda'r un enw, Tommy Jones - wrth gwrs oedd un arall yn byw yn Rhydaman yn yr adeg 'ny!"

Dewrder

Mae'r actor, sy' wedi bod yn Eastenders, Coronation Street a Pobol y Cwm, yn teimlo'n falch iawn ohono, yn enwedig am fod ei dad-cu wedi cymryd lle rhywun gyda gwraig a phlant: "Dwi'n weddol gryf fel heddychwr - oedd e'n od iawn (i wneud y rhaglen) achos oedd e'n neud fi'n eitha' prowd ohono fe bod e wedi mynd i rhyfel.

"Oedd hwnna'n anodd iawn i fi ddygymod gyda fe. Beth oedd e wedi neud, oedd hwnna'n rili dewr."

Beth wnaeth yrru y Tommy Jones ifanc i wneud rhywbeth mor ddewr felly?

Meddai Richard: "Gadodd e lythyr i ni oedd yn dweud bod e wedi gweld y First Scottish Battalion yn cerdded drwy sgwâr Rhydaman ac yn edrych yn anhygoel yn eu cilts nhw gyda regalia nhw.

"Oedd e a grŵp o ffrindiau, rhyw 10 o nhw ac oedden nhw i gyd ishe mynd i ymladd. Mae fe'n anodd meddwl amdano fe nawr yn edrych gyda'n llygaid ni ar beth sy'n dod ar ôl e ond oedden nhw'n wirioneddol meddwl bydde'r rhyfel hyn yn stopio pob rhyfel oedd byth yn mynd i ddod. The great war, the war to end all wars...

Thomas 'Tommy' JonesFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Thomas 'Tommy' Jones

"Os oedd rhywun uwchben chi yn dweud 'mae'n rhaid i chi neud hyn', oeddech chi'n cymryd fod rhaid i chi neud e, doedd dim sinigiaeth o gwbl gyda nhw. 'Oedd pobl yn dod rownd yn dweud fod rhaid i chi fynd i helpu pobl a chadw pobl yn saff ac oedden nhw'n neud e."

Tystiolaeth

Mae'r ddau frawd yn cael cyfle i edrych ar ddogfennau ymrestru eu tad-cu gyda'r hanesydd Elin Tomos yn y rhaglen. Roedd y ddau Tommy Jones yn weithwyr tun felly'n debygol o fod yn adnabod ei gilydd. Yn y dogfennau mae tad-cu Richard a Rob yn nodi ei fod yn briod a phlant wrth gofrestru i'r fyddin, ac yn defnyddio enwau priod a phlant y Thomas John Jones arall.

Meddai Richard: "Mae fe'n brofiad od iawn i fi ac i Rob - collon ni Dad 12 mlynedd yn ôl so o'n ni'n neidio cenhedlaeth mewn ffordd ond mae plant fi oedran oedd Dad-cu pan nath e fe.

"Oedd e'n bwrw fi yn bendant. Oedd Rob yn edrych arna'i yn llefain ac yn meddwl, stopia nawr ond na'r ffordd 'y fi."

Richard a'i frawd Rob yn Gwesty AduniadFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Richard a'i frawd Rob yn Gwesty Aduniad

Bu tad-cu Richard a Rob ym ymladd ym mrwydr y Somme ym mis Mai 1916. Er na siaradodd am ei brofiadau yn y rhyfel, fe ddioddefodd o Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

Meddai Richard: "Roedd Dad-cu wedi colli lot. Er ddaeth e nôl o'r Rhyfel, oedd e wedi colli lot.

"Oedd e rili yn anodd i glywed bod e yn y Somme - mae'r llefydd hyn sy'n teimlo'n fwy na hanes. Oedd e 'na, oedd e yn ei ganol e. Ac mae tystiolaeth o 'na. Mae'n anhygoel.

"Un o'r pethau sy'n od iawn - oedd Dad yr ifanca' o naw a 'na gyd mae' e'n cofio yw bod ei dad byth yn siarad am y rhyfel. Maen nhw 'di dod o genhedlaeth - mae e wedi digwydd, bottle it up, get over it.

"Gath Dad lythyr wrth un o'i frodyr ar ôl i Dad-cu farw yn esbonio lot - oedd PTSD ofnadwy gyda fe. Oedd e'n esbonio cymaint am ei berthynas e gyda'i dad e ond daeth e i gyd mas yn rhy hwyr.

"Mae fe gyd yn dod trwy lens heddiw a'n teimlo'n erchyll iawn. Dwi'n credu oedd e yn teimlo'n euog am ddod nôl - oedd e wedi dod trwyddo fe ac oedd ei ffrindiau fe ddim wedi. Fe yw'r unig un ddaeth nôl.

"Mae'n teimlo fel bod e'n hen hanes ond dwi wedi eistedd ar col y dyn oedd wedi neud hwnna pan o'n i'n blentyn."

Mae'r ddau yn cael gwybod mwy am hanes y Tommy Jones arall hefyd yn y rhaglen ac mae'r holl brofiad wedi codi ambell i gwestiwn arall yn ôl Richard: "Mae fe wedi taflu lan lot o gwestiynau eraill am beth 'nath Dad-cu ar ôl hwnna.

"Ar ôl dod nol o'r rhyfel wedodd e 'dwi ffaelu bod rownd pobl rhagor' ac aeth e i Ganada i fod yn gowboi - mae 'da ni lun o fe yn Ellis Island.

"Mae bach mwy o palu i ni neud i ffeindio mas am hwnna nawr..."

Gwyliwch Gwesty Aduniad Nadolig ar S4C ar 25 Rhagfyr am 8.00pm.