32 o artistiaid i dderbyn arian o gronfa Gorwelion ar gyfer 2026

Mae'r chwiorydd a'r cantorion gwerin o Sir Drefaldwyn, Elin a Carys ymhlith yr artistiaid fydd yn derbyn arian o gronfa Gorwelion yn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi cyhoeddi enwau'r 32 o artistiaid cerddorol fydd yn cael cefnogaeth ariannol ar gyfer eu prosiectau yn 2026.
Ymhlith rhai o'r artistiaid fydd yn derbyn arian eleni mae Betsan, Dafydd Owain, Elin a Carys, Lloyd, Martha Elen, Morn, a Sage Todz.
Bydd y gronfa, sy'n bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor y Celfyddydau yn rhannu £60,000 rhwng yr artistiaid a labeli recordio annibynnol.
Mae nifer o fathau gwahanol o sain cerddorol yn cael eu cynrychioli ar y rhestr yn cynnwys roc pync, hip hop, gwerin, indie ac electronig.
Mae'r rhestr hefyd yn cynrychioli artistiaid o bob cwr o Gymru - o Gaernarfon, Abertawe, Wrecsam, Aberystwyth, y Coed Duon, Cwmbrân, Trefynwy a Chaerdydd.

Bydd y cerddor Dafydd Owain o'r Felinheli yn derbyn arian ar gyfer datblygu sioe fyw
Ers deng mlynedd, mae Gorwelion wedi rhoi cymorth uniongyrchol i dros 450 o artistiaid - gyda'r enwau dros y blynyddoedd yn cynnwys Adwaith, LEMFRECK, Buddug, Ben Ellis, Shale, Panic Shack a Melin Melyn.
Dywedodd uwch-gynhyrchydd y cynllun, Bethan Elfyn, ei bod hi'n fraint i Gorwelion weld ton o dalent newydd yn torri drwodd o bob cwr o Gymru.
"Mae eu straeon fel tapestri cyfoethog o sut beth yw byw yng Nghymru heddiw.
"Mae'n bleser gallu rhoi hwb i'w creadigrwydd gyda chymorth ariannol, sy'n help gwirioneddol yn yr oes sydd ohoni.
"Cerddoriaeth yw trac sain ein hoes ac mae mor bwysig clywed lleisiau newydd ac ifanc ffres fel rhan o'n hymgyrch i adlewyrchu straeon o gymunedau Cymru."
Ychwanegodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau yng Nghyngor Celfyddydau Cymru bod y prosiectau sy'n cael eu cefnogi yn "adlewyrchu cryfder, amrywiaeth ac uchelgais artistiaid ledled Cymru heddiw".

Bethan Elfyn yw Uwch-Gynhyrchydd Gorwelion
Ymlith y rhai fydd yn derbyn arian eleni mae MORN, band ôl-pync o Sir Fynwy, sy'n dweud bod cael eu cynnwys ar y rhestr yn "anrhydedd".
"Gyda chymaint o rwystrau'n atal pobl ifanc Cymru rhag dilyn eu breuddwydion o weithio yn y celfyddydau, mae cyllid Gorwelion yn gwneud llawer i gefnogi artistiaid, gan fod o fudd i'r sîn gerddoriaeth anhygoel yng Nghymru sy'n cynnwys cymaint o artistiaid gwych heddiw.
"Byddwn yn gwario'r arian i'n helpu i deithio heb fod ar ein colled, gan hyrwyddo'r deunydd newydd sydd ar y gweill ac ehangu'r byd rydym am i bawb fod yn rhan ohono."

Bydd Sage Todz o Gaerdydd yn cael cyfran o arian y gronfa ar gyfer datblygu band byw a chostau recordio
Dywedodd Recordiau Grwndi, y label recordiau annibynnol newydd o Gaerdydd sydd hefyd ar y rhestr bod cael y cymorth ariannol gan Gorwelion yn "amhrisiadwy".
"Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyfle arbennig hwn i allu defnyddio'r arian ar gyfer gwahanol brosiectau a cherddoriaeth ar y label.
"Mae rhedeg label annibynnol yn llafur cariad go iawn ac mae'n werth y byd i ni gael y gydnabyddiaeth hon."
Yr artistiaid fydd yn derbyn arian yn 2026
Al Morrison, Bangor – costau recordio
Baby Schillaci, Abertawe – costau recordio
Betsan, Caerdydd – costau recordio
BWGiBWGAN (gyda'r artistiaid MWSOG ac Osgled), Caerfyrddin – sesiynau byw a fideos cerddoriaeth
Chwaer Fawr, Caernarfon – costau recordio
Courtney Scotto, Caerdydd – costau recordio a deunydd gweledol
Dafydd Owain, y Felinheli – datblygu sioe fyw
Elin a Carys, yr Orsedd – costau recordio
Elliot Bradfield, y Coed Duon – costau recordio
Emyr Sion, Caerdydd – costau ymgyrchu albwm
Farai KD, Trefforest – costau recordio
Recordiau Grwndi (gyda'r artist Tonnau), Caerdydd – costau label ac ymgyrchoedd recordiau sengl
Internet Fatigue, Aberystwyth – costau recordio a fideos cerddoriaeth
Lloyd, Cwmbrân – cyfarpar a chostau recordio
Loki Bambino, Abertawe – costau recordio ac ymgyrchu
Mantis, Caerdydd – costau recordio
Martha Elen, Caerdydd – costau recordio a deunydd gweledol
Martha O'Brien, Caerdydd – costau recordio
Meg Uppington, Caerdydd – ymgyrch prosiect
Molly Roberts, Caerdydd – costau taith
MORN, Sir Fynwy – ymgyrchoedd recordiau sengl a chyfarpar newydd
Ogun, Casnewydd – fideos cerddoriaeth, sesiynau byw ac ymgyrch
Ovajoi, Caerdydd – offerynnau a chyfarpar
Papaya noon, Caerdydd – ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus a deunydd gweledol
Sage Todz, Caerdydd – datblygu band byw a chostau recordio
SHINOBii, Caernarfon – costau recordio
Slow Life, Wrecsam – recordio sesiwn fyw
Tai Haf Heb Drigolyn, Aberystwyth – offerynnau a chostau recordio
The Family Battenberg, Caerdydd – costau recordio
Tokomololo, Caernarfon – costau recordio a chyfarpar
Trystan Hughes, Powys – costau recordio
Waterpistol, Sir Fynwy – Ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus
Straeon Perthnasol
34 artist i dderbyn cefnogaeth wrth i Gorwelion ddathlu 10
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2025
Dathlu degawd o Ddydd Miwsig Cymru ond beth nesaf i'r 'SRG'?
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.