Darganfod fila Rufeinig fawr ym Mharc Gwledig Margam

Drwy ddefnyddio sganwyr pwerus i chwilio am nodweddion archeolegol dan ddaear daeth y tim o hyd i fila Rufeinig wedi'i hamgylchynu gan amddiffynfeydd
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr wedi darganfod y fila Rufeinig fwyaf eto yng Nghymru gan alw'r safle'n "Pompeii Port Talbot".
"Roeddwn i'n methu credu fy llygaid," meddai arweinydd y prosiect Dr Alex Langlands, ar ôl i arolygon radar ddatgelu'r "strwythur anferth" dan wyneb y ddaear ym Mharc Gwledig Margam.
Mae'r lleoliad yn arwyddocaol oherwydd fel parc ceirw hanesyddol dyw'r tir ddim wedi cael ei aredig na'i ddatblygu ac felly mae olion y fila'n ymddangos fel eu bod mewn cyflwr da.
Mae'r sawl fu ynghlwm â'r prosiect o Brifysgol Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Eglwys Abaty Margam wedi dweud y bydd eu "darganfyddiad anhygoel" yn cynnig gwybodaeth hanfodol am hanes Cymru.

Dr Alex Langlands a'r tîm o Brifysgol Abertawe yn trafod eu darganfyddiad yn ymyl un o'r sganwyr radar
Mae manylion y darganfyddiad wedi'u rhannu â BBC Cymru gyda disgwyl cyhoeddiad ffurfiol ddydd Llun.
Cafodd arolygon geoffisegol o'r parc - sy'n atyniad poblogaidd yn ne Cymru - eu comisiynu fel rhan o brosiect ehangach oedd yn cynnwys disgyblion ysgol a'r gymuned leol er mwyn ceisio dysgu mwy am dreftadaeth yr ardal.
Defnyddiwyd sganwyr soffistigedig i fapio nodweddion archeolegol posib dan ddaear.
A dyma'r tim yn "taro deuddeg" - gan ddod o hyd i olion fila Rufeinig 572m² oedd wedi'i hamgylchynu gan amddiffynfeydd.
Disgrifiodd Dr Langlands, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Hyfforddiant Treftadaeth Prifysgol Abertawe yr adeilad fel un "gwirioneddol drawiadol ac urddasol", oedd yn debygol o fod wedi'i arddurno'n hardd gyda cherfluniau a lloriau mosäig.
"Mae oddeutu 43m mewn hyd ac yn cynnwys chwech o ystafelloedd [yn y blaen] gyda dau goridor yn arwain at wyth o 'stafelloedd pellach yn y cefn," esboniodd.
"Mae bron â bod yn sicr y byddai gyda chi ŵr pwysig iawn yn byw yma," meddai.
"Byddai wedi bod yn le prysur - yn ganolbwynt i ystad amaethyddol fawr a lot o bobl yn mynd a dod".

Mae'n bosib y byddai fila Margam wedi edrych yn debyg i hyn. Dyma ddarlun o fila Rufeinig Lullingstone yng Nghaint yn y bedwaredd ganrif
Y fila ei hun yw'r fwyaf i'w darganfod hyd yma yng Nghymru.
Mae'r rhan helaeth o'r gweddillion o gyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru yn safleoedd milwrol a chaerau tra bod dod o hyd i gartref mawreddog fel hyn yn fwy anghyffredin.
Bydd y darganfyddiad yn gorfodi arbenigwyr i "ailfeddwl sut ry'n ni'n gweld de Cymru yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid," honnodd Dr Langlands.
"Dyw'r rhan yma o Gymru ddim yn rhyw fath o ffindir, ar gyrion yr ymerodraeth - mewn gwirionedd roedd 'na adeiladau yma oedd yr un mor soffistigedig ac uchel eu statws â'r rheini ry'n ni'n eu darganfod yn mherfeddwlad amaethyddol de Lloegr."
Roedd hefyd yn profi bod Margam - "man a wnaeth efallai fenthyg ei enw i ranbarth hanesyddol Morgannwg" - yn "un o'r canolfanau pwer mwyaf pwysig yng Nghymru".

Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn i Barc Margam ac i Gymru, medd Michael Wynne, rheolwr y parc
Dywedodd Christian Bird o TerraDat, y cwmni Cymreig wnaeth gynnal yr arolygon geoffisegol bod y sganiau yn "rhyfeddol o glir, gan adnabod a mapio mewn 3D strwythur y fila, y ffosydd oedd yn ei hamgylchynu a'r safle yn ehangach".
Roedd hyn yn cynnwys adeilad hir 354m² i'r de-ddwyrain o'r fila - adeilad y mae'r tîm yn credu oedd yn rhyw fath o storfa amaethyddol neu o bosib yn neuadd gyfarfod.
Eisteddfod yr Urdd: Dewch i grwydro Parc Margam
- Cyhoeddwyd25 Mai 2025
Beth ddaeth y Rhufeiniaid gyda nhw i Gymru?
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2024
Y Cymro a welodd Vesuvius yn ffrwydro yn 1944
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024
Mae union leoliad y fila yn gyfrinach am y tro oherwydd pryderon y gallai gael ei thargedu gan bobl yn chwilio am drysor Rhufeinig.
Dywedodd Dr Langlands mai gwarchod y safle fyddai'r flaenoriaeth gyntaf cyn comisiynu arolygon pellach a chwilio am gyllid er mwyn gallu cloddio yn y dyfodol.
Roedd yna botensial i hyn fod yn "Pompeii Port Talbot", awgrymodd, gan gyfeirio'n chwareus at y ddinas Rufeinig hynafol gafodd ei chladdu dan lafa a lludw Mynydd Vesuvius yn 79 AD.
Roedd olion y fila'n ymddangos i fod mewn cyflwr da iawn, a hynny oherwydd y lleoliad mewn parc ceirw hynafol nad oedd wedi cael ei ffermio na'i ddatblygu.
"Yn aml iawn mae safleoedd Rhufeinig eraill wedi cael eu difrodi wrth gael eu haredig," esboniodd.
"Ond mae 'na bosibilrwydd gwirioneddol gyffrous yn fan hyn y bydd 'na dystiolaeth archeolegol wedi goroesi mewn cyflwr da, a bod potensial felly i ni ddysgu llawer iawn am sut oedd bywyd yn y fan hyn yn yng nghanrifoedd cynta'r mileniwm cynta AD".

Mae union leoliad y fila ar stad parc Margam yn cael ei chadw'n gyfrinach am y tro
Disgrifio'r darganfyddiad fel un "anhygoel" a "tu hwnt i'n breuddwydion" wnaeth Harriet Eaton, sy'n gyfrifol am glwb archeolegwyr ifanc fel rhan o'i rôl fel Swyddog Treftadaeth ac Addysg Cyngor Castell-nedd Port Talbot.
"Byddai'n ffantastig pe bai yna waith cloddio'n gallu digwydd yma y gallai'r gymuned fod yn rhan ohono, gan eu cysylltu nhw â'r hanes sy' wrthi'n cael ei ddatgelu dan ein traed," meddai.
Y cyngor sir sy'n berchen ar Barc Gwledig Margam a roedd eisoes yn safle hanesyddol pwysig, gydag olion caer o'r Oes Haearn, abaty Normanaidd a chastell trawiadol o'r 19eg ganrif i enwi ond rhai o'r atyniadau.
Ond mae darganfod fila Rufeinig wedi "llenwi bwlch mawr o ran ein gwybodaeth ni o beth oedd yn digwydd ym Margam yn ystod y cyfnod hwnnw," esboniodd rheolwr y parc Michael Wynne.
"Mae hyn yn ddarganfyddiad pwysig iawn i ni yn y parc a dwi'n meddwl i Gymru hefyd achos mae'n rhywbeth eithaf anghyffredin yn yr ardal yma.
"Dwi'n gobeithio y gallwn ni ddod i ddysgu llawer iawn mwy amdano fo... a bydd 'na lot fwy o ymwelwyr yn dod yma i Fargam ac i Gastell-nedd Port Talbot i weld beth sy' 'da ni yma."

Dyma'r newyddion mwyaf cyffrous ry'n ni wedi ei glywed erioed, medd Margaret Jones
Cafodd prosiect ArchaeoMargam ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth Prydain.
Bydd manylion pellach ynglun â'r darganfyddiad yn cael eu rhannu mewn diwrnod agored yn Eglwys Abaty Margam ddydd Sadwrn 17 Ionawr.
Mae Margaret Jones, cyn-athrawes o Bort Talbot sydd â diddordeb brwd mewn hanes lleol wedi archebu tocyn ac yn "methu aros".
"Mae'n anhygoel, dwi'n methu credu'r peth i fod yn onest," meddai.
"Gyda Margam ry'n ni'n meddwl am y Normaniaid wrth gwrs gyda'r abaty enwog iawn - ond y Rhufeiniaid!
"Fi wedi cerdded dros y tir yma cannoedd o weithiau (heb sylweddoli) - mae 'mhlant a'n wyrion i wedi whare ar ben y tŷ anhygoel yma.
"I feddwl eu bod nhw wedi byw mewn shwt balas o le.
"'Na gyd y'n ni wedi clywed yn ddiweddar yw newyddion trist am Bort Talbot," ychwanegodd, gan gyfeirio at ddiswyddiadau yn y gwaith dur lleol.
"Bydd hwn yn arbennig o dda i ni - bydd llawer o bobl yn dod i Fargam ac ymhellach i mewn i'r dre - dyma'r newyddion mwyaf cyffrous ry'n ni wedi clywed erioed."