Agor cwestau tri o bobl fu farw mewn gwrthdrawiad

Roedd Mr Pryce Jones, 86, yn byw yn Craven Arms yn Sir Amwythig
- Cyhoeddwyd
Mae cwestau wedi agor i farwolaethau tri pherson mewn gwrthdrawiad ffordd ar y ffin rhwng Powys a Sir Amwythig fis Rhagfyr.
Bu farw David Richardson, 63 oed, a'i wraig Pamela, oedd yn 64, yn ogystal â John Pryce Jones, 86 oed, ar ffordd yr A489 ger Yr Ystog ar 11 Rhagfyr.
Clywodd gwrandawiad yn Llys y Crwner ym Mhontypridd fod Mr Richardson yn gyrru un o'r ceir, a'i wraig yn teithio yn y sedd flaen.
Roedd y ddau yn byw ym mhentre'r Ystog, ac fe fuon nhw farw yn y fan a'r lle.

Roedd Pamela Richardson yn 64 oed a'i gŵr David yn 63
Roedd Mr Pryce Jones yn byw yn Craven Arms yn Sir Amwythig, ac roedd yn gyrru car arall.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn Stoke-on-Trent, ond fe fu farw yno yn ddiweddarach yr un diwrnod.
Cafodd archwiliadau post mortem eu cynnal, ac fe ddangosodd y casgliadau cychwynnol fod David a Pamela Richardson wedi marw ar ôl derbyn anafiadau niferus mewn gwrthdrawiad ffordd.
Bu farw John Pryce Jones o ganlyniad i waedlif a rhwygiadau i'r ddueg (spleen).
Cafodd y tri chwest eu gohirio wrth i ymholiadau i achos y gwrthdrawiad barhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025
