Tri wedi marw ac un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad difrifol

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A489 ger Snead am tua 16:50 brynhawn Iau
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson wedi marw ac un arall wedi ei anafu yn ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A489 ger Snead - rhwng Yr Ystog a Lydham - am tua 16:50 ddydd Iau wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Car Audi A4 llwyd a Toyota Yaris coch oedd y cerbydau dan sylw.
Bu farw dau o bobl yn y Toyota yn y fan a'r lle, yn ogystal â gyrrwr yr Audi. Mae teuluoedd y rhai fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd teithiwr arall yn y Toyota ei anafu yn ddifrifol a'i gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau allai fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.