Cymdogion yn cofio effaith llofruddiaeth 'arswydus' Mabel Leyshon

Cafwyd Mathew Hardman yn euog o lofruddio Mabel Leyshon yn 2001
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai cynnwys yn y stori isod beri gofid.
Mae llofruddiaeth y wraig weddw Mabel Leyshon yn un o'r rhai mwyaf erchyll yn hanes diweddar Cymru.
Fe gafodd ei lladd yn ei chartref yn Llanfairpwll ar Ynys Môn dros chwarter canrif yn ôl, ac roedd yna sioc yn gyffredinol pan ddaeth manylion ei marwolaeth i'r amlwg.
Roedd y llofrudd, Mathew Hardman, yn 17 ar y pryd, ac yn byw yn y pentref.
Roedd o'n arfer danfon papur newydd i'r byngalo ble roedd y bensiynwraig, 91, yn byw ar ei phen ei hun.
Yr hyn a syfrdanodd y gymuned oedd natur y lofruddiaeth a'r olygfa a wynebodd swyddogion yr heddlu.
Roedd yr hyn ddigwyddodd yn amlygu rhywbeth llawer mwy tywyll - gan greu gwir ofn yn lleol nes arestio, cyhuddo, erlyn a dedfrydu'r sawl oedd yn gyfrifol.
Mae pobl oedd yn byw yn y pentref nawr wedi disgrifio effaith yr hyn a ddigwyddodd i Mabel Leyshon ym mhodlediad newydd BBC Radio Wales The Anglesey Vampire Killer.
Cafodd Hardman, oedd yn gwadu'r llofruddiaeth, ddedfryd o garchar am oes yn Awst 2002 gydag isafswm o 12 mlynedd.
Fis Medi y llynedd fe benderfynodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol i beidio â chyfeirio'r euogfarn at y Llys Apêl.
'Doeddan ni byth yn cloi'r drws'
Un a gafodd ei magu yn Llanfairpwll yw'r ddigrifwraig a'r cyflwynydd Kiri Pritchard-Mclean.
"Mae pawb yn gwybod popeth," meddai. "Mae pawb yn nabod pawb, felly mae yna gymuned enfawr...
"Doedd gynnon ni ddim goriad tŷ pan oeddan ni'n ifanc, achos doeddan ni byth yn cloi'r drws."
Newidiodd hynny wedi marwolaeth Mabel Leyshon.

Roedd Mabel Leyshon yn byw ar ei phen ei hun ers colli ei gŵr yn y 1960au ac er ei hoedran roedd yn cael ei hystyried yn person heini ac annibynnol
Roedd hi'n nos Sadwrn ym mis Tachwedd 2001 ac roedd y bensiynwraig yn eistedd yn ei hoff gadair yn gwylio'r teledu.
A hithau'n fyddar, roedd sain y teledu'n uchel a doedd dim modd iddi glywed sŵn Hardman yn torri i mewn drwy un o ffenestri drws cefn y byngalo.
Fe drywanodd Mabel 22 o weithiau, symud ei chorff i gadair arall a gosod dau brocer ar ffurf croes wrth ei thraed.
Yna fe dorrodd ei chalon o'i chorff ac yfed ei gwaed o sosban.
Gwirfoddolwr wnaeth ddarganfod y corff y diwrnod canlynol wrth ddanfon prydau ar glyd iddi.
Ofni dod ar draws y llofrudd
Roedd teulu Ben Roberts yn gymdogion i Mabel Leyshon, ac yntau ond yn 10 oed ar y pryd.
"Dwi'n meddwl o'n i'n dal yn dod dros ofni'r tywyllwch, ysbrydion ac angenfilod a phethau fel 'na," dywedodd.
"Ro'n i'n arfer synfyfyrio be' o'n i am wneud os ro'n i'n dod ar draws y llofrudd.
"Dwi'n cofio bod yn ymwybodol bob tro ro'n i yn yr ardd ac yn cicio'r bêl i'r gwrych y gallwn ni ddod i hyd i'r llofrudd yn llechu."

Blodau a thâp heddlu wrth fynedfa cartref Mabel Leyshon
Mae'n cofio un o'i athrawon yn gofyn iddo sefyll o flaen ei ddosbarth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-ddisgyblion ddyddiau'n unig wedi'r llofruddiaeth.
Yn ôl Ben, sydd bellach yn 35 oed, roedd hyn yn amlygu pentref na wyddai sut i drafod beth oedd wedi digwydd.
Ychwanegodd bod yr ymchwiliad llofruddiaeth "wir wedi effeithio ar fy mywyd mewn ffordd sylweddol".
Peidio cyfeirio euogfarn 'llofrudd fampir' Ynys Môn at y llys apêl
- Cyhoeddwyd2 Medi 2025
Dywedodd y Ditectif Sarjant Iestyn Davies, oedd hefyd yn byw yn Llanfairpwll, mai dyma "un o'r achosion mwyaf ffiaidd a dychrynllyd i mi weithio arno mewn gyrfa 30 o flynyddoedd".
Mae'n cofio'r heddlu'n ymweld â'i gartref ac bu'n rhaid iddo a'i wraig lenwi holiadur yn cadarnhau ble roedden nhw benwythnos y llofruddiaeth.
"Ro'n i'n gweithio shifftiau hwyr ac roedd fy ngwraig a'r plant wedi mynd i'r gwely," dywedodd.
"Byddwn i'n dweud wrth [ei wraig]: 'Gwna'n siŵr dy fod yn cloi'r drysa' gyda'r nos'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.