Llong 24m yn sownd ar greigiau oddi ar arfordir Cymru

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 4, Llong Resolute ,
  • Cyhoeddwyd

Mae lluniau trawiadol o long sy'n sownd ar greigiau oddi ar arfordir gorllewin Cymru wedi eu casglu gan ddyn yn hedfan drôn yn yr ardal.

Tynnodd Jay Curtis o Abertawe luniau o'r llong Resolute ger Aber Hywel yn Ninas, Abergwaun, ar 7 Chwefror.

Aeth y llong 24 metr o hyd yn sownd ar y creigiau mewn tywydd garw tua 03:30 ar 11 Rhagfyr, wrth weithredu fel llong warchod ar gyfer fferm wynt alltraeth ger Iwerddon.

Achubwyd pedwar aelod o'r criw gan fad achub. Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y llong yn parhau ar y lan, a'i bod yn gyfrifoldeb i'w pherchennog.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig