Troi hen ffatri ym Mangor yn ganolfan padel arloesol

Argraff arlunydd o'r safle pan fyddai wedi'i gwblhau Ffynhonnell y llun, S3 Padel
Disgrifiad o’r llun,

Argraff arlunydd o'r safle pan fyddai wedi'i gwblhau

  • Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynlluniau i ddatblygu canolfan padel dan do ym Mangor ar ran o hen safle diwydiannol.

Mae'r gamp, sy'n cyfuno tenis a sboncen, yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru. Ond er bod nifer o safleoedd yn y de, dim ond ychydig o gyrtiau sydd yn y gogledd ar hyn o bryd.

Bwriad y datblygwyr Social Sports Society ydy troi warws wag ar hen safle Ferranti, ger Ffordd Caernafon, yn wyth cwrt padel, dau gwrt pêl-bicl a wal ddringo.

Mae gan y cwmni sawl canolfan ar draws y Deyrnas Unedig, ond y ganolfan S3 Padel fydd eu cynta' yng Nghymru, a'r unig safle dan do pwrpasol yn y gogledd.

Yn ôl y cwmni, mi fyddan nhw'n cynnig cyfnodau chwarae am ddim er mwyn rhoi cyfle i ysgolion, elusennau a grwpiau cymunedol gael blas o'r gamp.

S3 padelFfynhonnell y llun, S3 Padel

Roedd safle Ferranti yn rhan bwysig o economi Bangor o ddechrau'r 1950au tan iddo gau yn 2022, ac ar ei anterth yn cyflogi tua 1,000 o bobl i wneud cydrannau i'r diwydiant awyr ofod.

Cafodd y safle ei werthu ym mis Rhagfyr 2024 i Bearmont Group oedd, tan yn ddiweddar, yn berchen ar ganolfan siopa Menai ym Mangor.

Martin Hanks
Disgrifiad o’r llun,

"Mae 'na bethau positif yn digwydd o gwmpas y ddinas," meddai Martin Hanks

Yn ôl Cyfarwyddwr Dinas Bangor, Martin Hanks, mae'r cynlluniau'n cydfynd a gweledigaeth ehangach i hybu iechyd trigolion.

"Cafodd Actif Bangor - sy'n brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Dinas Bangor, Byw yn Iach, Prifysgol Bangor a Street Games - ei lansio fis diwetha' i gael pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon lot mwy," meddai.

"Wrth gwrs wythnos diwetha' gath cae 4G newydd Clwb Pêl-droed Bangor ei lansio, felly mae 'na bethau positif yn digwydd o gwmpas y ddinas.

"Mae'r prosiect padel yma'n ffitio mewn i'r amcan mwy yna i gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn y ddinas."

Mae'r gamp a gychwynnodd ym Mecsico yn y 1960au yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd.

Mae'n gêm sy'n cyfuno sboncen a thenis, gyda chwaraewyr yn defnyddio cwrt ychydig yn llai sydd wedi'i fframio gan wal wydr.

Mae pêl-bicl, sydd hefyd yn tyfu mewn poblogrwydd, yn cyfuno tenis, badminton a thenis bwrdd, gan chwarae gyda phadl a phêl ysgafn.

David Parry
Disgrifiad o’r llun,

"Nid dim ond y ddinas fydd yn elwa, ond Gwynedd gyfan ac Ynys Môn hefyd," meddai David Parry

Mae David Parry yn un o gapteiniaid Clwb Tenis Bangor ond hefyd yn hyfforddi padel erbyn hyn, gan gystadlu ar draws y wlad.

Meddai: "Ar hyn o bryd dwi'n gorfod teithio falle yng Nghymru neu tu allan i Gymru i gael cyfleoedd. Wrth gael hwb fel hyn ym Mangor, mi fydd yn galluogi cael leagues a chystadlaethau i gael eu cynnal yma."

Dywedodd fod sefydlu canolfan o'r fath ym Mangor yn torri tir newydd a chynnig rhywbeth newydd i'r ddinas a'r ardal ehangach.

Ychwanegodd: "Nid dim ond y ddinas fydd yn elwa, ond Gwynedd gyfan ac Ynys Môn hefyd.

"Mi fydd o'n lle y gall pobl fentro a chael cyfle i chwarae dan do o ran chwaraeon newydd - chwaraeon sy' n tyfu ond sy'n accessible i bawb.

"Mae tenis, er enghraifft, yn rhywbeth anodd iawn i bobl allu meistroli. Efallai bod padel yn rhywbeth sy'n pontio'r gap yna."

David ParryFfynhonnell y llun, David Parry
Disgrifiad o’r llun,

"Wrth gael hwb fel hyn ym Mangor, mi fydd yn galluogi cael leagues a chystadlaethau i gael eu cynnal yma"

Gyda phwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd wedi rhoi eu cefnogaeth unfrydol i'r cynllun mewn cyfarfod ddydd Llun, gobaith y cwmni ydy bwrw ymlaen gyda'r gwaith mor fuan â phosib a throi hen safle diwydiannol yn ganolfan i gamp sy'n tyfu'n gyflym.

Dywedodd Tom Rooney, Prif Weithredwr Social Sports Society bod "lansio ym Mangor yn nodi carreg filltir gyffrous wrth ehangu mewn i Gymru" a bod y cwmni eisiau i'r safle S3 Padel yn y ddinas "fod yn rhywle all y gymuned deimlo'n gartrefol".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig