Rhybudd am ragor o law trwm dros rannau o Gymru

Bydd y rhybudd melyn mewn grym trwy gydol dydd Sul hyd at prynhawn dydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae rhagor o dywydd garw ar y ffordd i Gymru wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn am law trwm.
Mae'r rhybudd - fydd mewn grym rhwng 18:00 dydd Sul a 15:00 dydd Llun - yn berthnasol i nifer o ardaloedd yn y gogledd a'r canolbarth.
Ceredigion, Conwy, Dinbych, Gwynedd a Phowys yw'r siroedd sydd wedi eu cynnwys yn ardal y rhybudd.
Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o rybuddion tywydd diweddar, a rhai dyddiau yn unig ar ôl i Storm Bram achosi problemau ar draws y wlad.
Yn ôl arbenigwyr, fe allai'r glaw ddydd Sul a dydd Llun arwain at lifogydd mewn mannau, yn ogystal â thrafferthion ar y ffyrdd.
Mae rhywfaint o amharu ar gyflenwadau trydan a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn bosib.
Mae disgwyl i rhwng 30-40mm o law ddisgyn yn eang o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 100mm yn bosib ar dir uchel.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
