Cyhuddo dyn o Sir y Fflint o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad

Mae dyn o Brychdyn wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ar ôl i ddyn o Wrecsam gael ei daro mewn gwrthdrawiad yn Dodleston, ger Caer
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Sir y Fflint wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn gwrthdrawiad ger Caer.
Cafodd Paul Rudd, 58 oed ac o Warren Hall Court, Ffordd yr Wyddgrug, Brychdyn, ei arestio yn yr oriau man ddydd Sadwrn ar ôl i ddyn cael ei daro gan Kia Sportage glas ar Church Road yn Dodleston.
Cafodd y dyn, sy'n 43 oed ac o Wrecsam, ei gludo i Ysbyty Countess of Chester lle mae'n parhau mewn cyflwr sefydlog, meddai Heddlu Sir Gaer.
Mae disgwyl i Paul Rudd ymddangos yn Llys Ynadon Caer ddydd Llun, 9 Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.