Prifysgol yn ymbellhau o benderfyniad i wrthod sesiwn Reform UK

Prifysgol BangorFfynhonnell y llun, Geraint Tudur
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Bangor yn parhau'n niwtral yn wleidyddol, meddai llefarydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Bangor wedi ymbellhau oddi wrth benderfyniad gan gymdeithas ddadlau'r brifysgol i wrthod sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Reform UK.

Dywedodd y gymdeithas ei bod wedi gwrthod cais gan AS Reform, Sarah Pochin a'r ymgyrchydd Jack Anderton i annerch myfyrwyr, gan nad yw'r gymdeithas yn goddef "unrhyw fath o hiliaeth, trawsffobia na homoffobia".

Mewn ymateb, mae pennaeth polisi Reform UK wedi bygwth tynnu £30m o gyllid o'r brifysgol o dan lywodraeth Reform, ond mae ffynhonnell o gangen Cymru'r blaid wedi ddweud wrth BBC Cymru nad yw hyn rhan o bolisi'r plaid.

Dywedodd Prifysgol Bangor fod cymdeithasau'n cael eu rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr, a'i bod yn croesawu dadleuon "ar draws y sbectrwm gwleidyddol".

Mae llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi dweud bod y penderfyniad wedi cael ei wneud gan y gymdeithas nid yr Undeb, sy'n parhau'n "wleidyddol niwtral ac yn cefnogi rhyddid mynegiant o fewn y gyfraith".

'Cadw casineb allan o'n prifysgolion'

Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Cymdeithas Ddadlau a Gwleidyddiaeth Prifysgol Bangor ei bod wedi gwrthod y cais i Jack Anderton a Sarah Pochin, yr AS dros Runcorn a Helsby yn Sir Caer, i gynnal y sesiwn.

Ychwanegodd nad oedd gan y gymdeithas "oddefgarwch o gwbl ar gyfer unrhyw fath o hiliaeth, trawsffobia neu homoffobia a ddangosir gan aelodau Reform UK".

Dywedodd y gymdeithas ei bod wedi gwrthod y cais gan Reform UK "yn unol â'n gwerthoedd".

"Mae eu hagwedd at fywydau eraill yn groes i werthoedd trafodaeth groesawgar a theg y mae ein cymdeithas wedi'u cynnal ers 177 mlynedd."

Dywedodd y gymdeithas hefyd ei bod yn "falch o fod y cyntaf i gymryd safiad yn erbyn Reform UK", gan annog cymdeithasau eraill i "gadw casineb allan o'n prifysgolion".

Zia YusufFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Zia Yusuf wedi bygwth tynnu cyllid cyhoeddus o Brifysgol Bangor petai'r blaid mewn llywodraeth

Ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Zia Yusuf fod Prifysgol Bangor yn derbyn £30m y flwyddyn mewn cyllid cyhoeddus, "llawer ohono gan drethdalwyr sy'n pleidleisio Reform".

Ychwanegodd: "Rwy'n siŵr na fyddent yn poeni am golli pob ceiniog o'r cyllid hwn o dan lywodraeth Reform."

Dywedodd arweinydd Reform Cymru, Dan Thomas, ei bod yn "fater trist pan fydd cymdeithas ddadlau prifysgol yn ceisio dad-lwyfannu plaid wleidyddol".

Ychwanegodd fod prifysgolion i fod yn "fannau ar gyfer trafodaeth rydd ac ymgysylltu â syniadau gwahanol, ond yn rhy aml mae grwpiau o fewn prifysgolion eisiau lapio eu hunain mewn gwlân cotwm".

Dywedodd hefyd y byddai Reform yn diogelu'r rhyddid i lefaru ar gampysau ac yn sicrhau bod "hawliau sylfaenol" yn cael eu hamddiffyn.

Brynhawn Mawrth fe gyhoeddodd Reform Cymru eu bwriad i weithredu o fewn 100 diwrnod, pe bai nhw'n ffurfio llywodraeth ym mis Mai, i "amddiffyn rhyddid barn mewn prifysgolion".

Mewn datganiad, dywedodd y blaid y byddai unrhyw sefydliadau sy'n mynd yn groes i'r ddeddfwriaeth yn wynebu colli arian cyhoeddus.

'Cefnogi'r rhyddid i lefaru'

Dywedodd Prifysgol Bangor fod datganiad y gymdeithas wedi'i gyhoeddi gan fyfyrwyr ac nad oedd yn adlewyrchu safbwynt y brifysgol.

Mewn datganiad dywedodd y brifysgol: "Mae cymdeithasau myfyrwyr yn cael eu creu a'u rhedeg gan fyfyrwyr drwy Undeb y Myfyrwyr annibynnol.

"Mae Prifysgol Bangor yn parhau i fod yn niwtral yn wleidyddol ac yn cefnogi'r rhyddid i lefaru.

"Mae Prifysgol Bangor yn croesawu dadl o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol."

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Myfyrwyr Bangor bod y gymdeithas wedi gwneud "y penderfyniad hwn yn annibynnol, ac nid yw'r Undeb Myfyrwyr wedi derbyn unrhyw gyfathrebiad yn ymwneud â'r mater hwn".

Ychwanegon nhw bod gan gymdeithasau "ryw raddau o ymreolaeth wrth ddewis eu gweithgareddau" ond eu bod yr undeb myfyrwyr yn "parhau'n wleidyddol niwtral".

Dywedon nhw hefyd y bydd "digwyddiad hysting" ar gyfer etholiad y Senedd "yn cael ei drefnu'n ddiduedd" a bydd yn "cynnig cyfle teg a chytbwys i gyfranogiad gan bob plaid wleidyddol".

Yn ystod trafodaeth yn y Senedd brynhawn Mawrth, dywedodd Jane Hutt ar ran y llywodraeth fod gan y myfyrwyr hawl i wneud y penderfyniad.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros addysg, yr Aelod o'r Senedd Cefin Campbell, fod bygythiadau Zia Yusuf yn "dod yn syth o lawlyfr Trump - bwlio prifysgolion a'u myfyrwyr, a bygwth tanseilio'r economïau lleol sy'n dibynnu arnynt".

"Nid yw Reform yn poeni am Gymru, ac mae'n amlwg nad ydynt yn deall nac yn rhoi blaenoriaeth i fuddiannau ein cymunedau, neu ni fydden nhw'n cyhoeddi bygythiadau fel hyn.

"Mae'n gwbl glir bod dau ddyfodol o'n blaenau yng Nghymru: gwleidyddiaeth o raniad ac ofn Reform, neu'r gobaith a'r cynllun radical ac ymarferol a gynigir gan Blaid Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig