Dyn, 51, yn y llys ar gyhuddiadau arfau anghyfreithlon

Cafodd yr heddlu eu galw i Abergwynfi nos Sul 15 Chwefror
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 51 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiadau'n ymwneud ag arfau anghyfreithlon.
Mae Maximin Carter wedi'i gyhuddo o fod ag arf ymosodol mewn eiddo preifat a bod ag arf anghyfreithlon yn ei feddiant.
Daw ar ôl i'r heddlu ddweud eu bod wedi darganfod arfau mewn eiddo yn Abergwynfi, Castell-nedd Port Talbot nos Sul.
Dywedodd Heddlu De Cymru mai "gwn aer cetrisen nwy" oedd yr arf anghyfreithlon dan sylw.
Cafodd pobl eu symud o gartrefi cyfagos am "resymau diogelwch rhagofalus" ond maent bellach wedi dychwelyd.
Ymddangosodd Mr Carter, sydd heb gyfeiriad sefydlog, yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mercher i gadarnhau ei fanylion yn unig.
Mae wedi'i gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 20 Mawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
