Cyhuddo dyn ar ôl canfod 'nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon' yn Abergwynfi

Bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi ar Commercial Street yn Abergwynfi am gyfnod
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 51 oed wedi cael ei gyhuddo ar ôl i "nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon" gael eu canfod yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i gyfeiriad ar Commercial Street yn Abergwynfi tua 21:30 nos Sul.
Dywedon nhw eu bod wedi derbyn adroddiadau fod nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon o fewn yr adeilad.
Mae Maximin Carter o Flaengwynfi wedi cael ei gyhuddo o fod ag arf ymosodol ac arf anghyfreithlon - gwn aer, yn ôl y llu - yn ei feddiant. Mae'n parhau yn y ddalfa a bu'n ymddangos yn y llys ddydd Mercher.
Dywedodd Heddlu De Cymru ddydd Llun fod trigolion cartrefi gerllaw wedi gorfod gadael eu cartrefi ble fo hynny'n bosib fel "mesur diogelwch rhagofalus" ond eu bod bellach yn rhydd i ddychwelyd.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones: "Hoffwn ddiolch i'r holl drigolion am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i ni gynnal ein hymchwiliadau.
"Fe allai'r newyddion yma, ynghyd â phresenoldeb yr heddlu ar y stryd, fod wedi achosi rywfaint o bryder, ond ein blaenoriaeth oedd sicrhau diogelwch a lles pobl yr ardal."