Yr iaith Gernyweg 'ar drothwy llwyddiant o'r diwedd' - prifardd

Baner CernywFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd y Gernyweg yn cael ei hamddiffyn yn yr un modd â'r Gymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban

  • Cyhoeddwyd

Mae un o brifeirdd y Gernyweg wedi dweud bod yr iaith "o'r diwedd ar drothwy rhyw fath o lwyddiant" yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am statws yr iaith.

Mae Cyngor Cernyw hefyd wedi croesawu'r newyddion bod y llywodraeth yn argymell i'r Gernyweg gael statws rhan tri o dan Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.

Bydd y Gernyweg felly'n cael ei hamddiffyn yn yr un modd ag y mae'r Gymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban yn cael eu diogelu.

Dywedodd Tim Saunders ei fod methu â chredu'r newyddion a "dwi'n siŵr fyddwn ni'n gweld datblygiadau cyfoethog tu hwnt i bob dychymyg".

Yn ôl Llywodraeth y DU maen nhw wedi cymryd y cam gan fod "hyrwyddo cryfder Cernyw'n golygu hyrwyddo ei hanes a'i hunaniaeth unigryw".

Tim Saunders
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tim Saunders, tad y cantorion Gwenno Saunders ac Ani Glass, yn dweud bod y newid yma am "roi hwb aruthrol"

Y Gernyweg oedd yr unig iaith Geltaidd yn y DU nad oedd yn cael ei hamddiffyn o dan rhan tri y siarter - sef y lefel uchaf o ddiogelwch o dan y cytundeb Ewropeaidd.

Dywedodd Mr Saunders: "O'n i'n ffaelu yn deg â choelio pan nes i glywed gynta'.

"O'i'n falch bo fi'n ishde lawr - ma' cannoedd o bobl wedi bod yn ymladd a brwydro ers cenedlaethau a dyma ni o'r diwedd ar drothwy ryw fath o lwyddiant."

Dywedodd nad oedd hi'n beth cyffredin iawn i ddysgu'r iaith flynyddoedd yn ôl ond "erbyn hyn ma' mas yn yr awyr agored, ma'r Gernyweg i'w gweld ym mhob man a mewn llefydd syfrdanol weithie".

"Adeg yr orsedd, hynny yw gorsedd Kernow yn ôl yn mis Medi, o'n i'n iste mewn caffi ac o'n i'n meddwl i fy hun bo' rywbeth yn bod â fy nghlyw i achos o'dd 'na deulu bach yn y caffi tu ôl i fi yn siarad Cernyweg gyda'u plant.

"Bydd hwn yn rhoi hwb aruthrol," meddai.

Ychwanegodd bod yna "ganu pop, trydan a pync i'w glywed yn y Gernyweg" erbyn hyn "felly dwi'n siŵr fyddwn ni'n gweld datblygiadau cyfoethog tu hwnt i bob dychymyg".

Davyth FearFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Davyth Fear y bydd yn arwain at nifer o newidiadau ac mae'n "falch iawn" bod hyn yn digwydd

Esboniodd Davyth Fear, sy'n athro Daearyddiaeth o Lanrug sydd wedi ysgrifennu dros 1,000 o erthyglau Wicipedia yn y Gernyweg, fod yna ddau gyhoeddiad ynglŷn â Chernyw – y cyntaf oedd "bod llywodraeth [y DU] yn cytuno y dylai bod Cernyw hefo awdurdod unedol".

"Ond y mwya' pwysig yn fy marn i yw bod yr iaith Gernyweg yn symud o rhan dau i rhan tri," meddai.

Dywedodd y bydd hyn yn golygu nifer o newidiadau.

"Mae'n rhaid i'r llywodraeth roi mwy o bres i mewn i drefnu bod 'na addysg, mae'n siŵr y by' nhw'n cychwyn hefo addysg meithrin a chynradd.

"Mae'n golygu pethe' fel bod hanes a diwylliant yr iaith yn cael ei ddysgu mewn ysgolion – o bosib bydd rhaid newid cwricwlwm cenedlaethol ysgolion Cernyw."

Ychwanegodd y gallai arwain at ddogfennau Cernyweg yn cael eu cynnwys yn y llysoedd.

"Ma' hynny o bosib yn mynd i olygu y bydd hi'n bosib cael priodas yng Nghernyweg - dwy, tair blynedd yn ôl roedd cwpl ddim yn medru cael eu priodas yng Nghernyweg er bo' nhw isie hynny achos bod y cofrestrydd ddim yn siarad Cernyweg", meddai.

"Felly ie bydd lot o newidiadau a dwi'n falch iawn bod hyn yn digwydd."

'Yr iaith wedi tyfu llawer'

Er bod Jennifer Lowe, Bardh Meur neu fardd mawr Cernyw, y rôl sy'n cyfateb i swydd yr Archdderwydd, yn hynod o falch o glywed y newyddion dywedodd ei bod "wedi gofyn am hyn ers talwm dweud y gwir".

"Ni 'di cal rhan dau o'r siarter yn 2002 felly mae wedi bod yn fwy nag 20 mlynedd", meddai.

Ar draws y blynyddoedd mae grwpiau a sefydliadau wedi bod yn ymgyrchu dros ddiogelu'r iaith.

Pwysleisiodd Ms Lowe fod yr ymdrech wedi bod yn fawr a bod yr "iaith wedi tyfu llawer" hyd yma.

Dywedodd y byddai mwy o arian yn help "ond cefnogaeth i 'neud pethau a sicrhau bod pawb yn cydnabod yr iaith ac yna i'n helpu ni" sydd bwysicaf.

"Ni just eisiau pethau i dyfu dweud y gwir" a bod mwy o gyfleoedd i bobl "ddysgu a defnyddio'r iaith".

Nia RobertsonFfynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Symudodd Nia Robertson i Gernyw gyda'i theulu 11 mlynedd yn ôl ar ôl cwympo mewn cariad â'r ardal

Mae'r Swyddog Cyswllt Ysgolion, Nia Robertson, gafodd ei magu ym Mangor ond sydd bellach wedi byw yng Nghernyw ers 11 mlynedd ac yn siarad yr iaith yn "gobeithio bydd y lefel tri 'ma'n gallu rhoi llun mwy clir i ysgolion".

Yn rhan o'i gwaith gyda mudiad Go Cornish mae'n mynd i ysgolion ar draws Cernyw.

"Be' dwi'n glywed drwy'r amser ydy - ma'r brwdfrydedd yma i gyflwyno'r iaith" a thrafod hanes yr iath ond bod "gofynion y cwricwlwm cenedlaethol yn stopio'r ysgolion rhag medru gneud hynna".

Dywedodd bod y Gernyweg wedi tyfu ymhob ffordd erbyn hyn.

"Ma' gen ti fusnesa' bach yn cychwyn sy'n defnyddio enwa' Cernyweg ar eu busnesa' nhw, ti'n ei weld o'n fwy ac ar fwy o arwyddion stryd hefyd.

"Ma 'na buzz o gwmpas yn sicr."

Wrth fyfyrio ar ei hamser yng Nghymru, dywedodd "o'n in berson ifanc yn tyfu fyny yn y 70au ac 80au ac oedd hwna'n gyfnod cyffrous iawn yng Nghymru" ac roedd angen "mudiadau fel mudiad ysgolion meithrin, yr Urdd a wedyn y sîn bop nath ffrwydro yn y 90au".

"Dwi'n meddwl ma' cael pobl ifanc on board mor, mor bwysig" ac mae'n gobeithio bydd mwy o gefnogaeth a chydnabyddiaeth yn gwneud hynny.

Fe ddywedodd Llywodraeth y DU bod "adfywiad yr iaith Gernyweg yn ystod y degawdau diwethaf" yn cryfhau balchder yr ardal.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.