Heddlu'n rhyddhau llun newydd o ddyn ar ôl i ddynes gael ei thrywanu

James McKennaFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd James McKenna ei ddisgrifio fel dyn gwyn, pum troedfedd saith modfedd o daldra, moel a gyda barf

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun newydd o ddyn mae swyddogion yn chwilio amdano ar ôl i fenyw ddioddef "anafiadau trywanu" mewn parc yng Nghaerfyrddin ddydd Iau diwethaf.

Dywedodd yr heddlu ddydd Llun eu bod wedi ceisio canfod James McKenna, 57, dros y penwythnos, mewn cysylltiad â'r achos.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i adroddiadau o ymosodiad yn ardal Heol Picton a Pharc Caerfyrddin ychydig wedi 16:00 ar 29 Ionawr.

Dywedon nhw fod menyw wedi cael ei chludo i'r ysbyty, lle y cafodd hi ei thrin am anafiadau trywanu.

Mewn diweddariad ddydd Llun, dywedodd yr heddlu nad ydyn nhw'n credu fod Mr McKenna wedi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i adael yr ardal.

Cadarnhaodd yr heddlu hefyd eu bod wedi canfod cyllell maen nhw'n credu a gafodd ei defnyddio yn y digwyddiad.

Ychwanegodd yr heddlu nad yw'r fenyw wedi dioddef anafiadau sy'n newid bywyd a bod disgwyl gwellhad llwyr, er gwaethaf "ymosodiad difrifol iawn".

James McKennaFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn trin James McKenna fel unigolyn dan amheuaeth

Y gred ydy bod Mr McKenna yn gwisgo côt werdd a het las yn ystod y digwyddiad ar 29 Ionawr.

Dechreuodd yr ymchwiliad ychydig ar ôl 16:00 ddydd Iau, pan dderbyniodd yr heddlu adroddiad bod menyw wedi'i hanafu y tu mewn i'r parc.

Llwyddodd hi i ddianc trwy fynedfa Teras Picton a galw am gymorth.

Aeth yr heddlu i'r lleoliad yn syth, cyn i'r Gwasanaeth Ambiwlans gludo'r ddynes i'r ysbyty.

Ers hynny, mae chwiliadau fforensig wedi cael eu cynnal y tu mewn a thu allan i'r parc, yn ogystal â chwilio yn yr ardal goediog a'r gwlypdiroedd.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi darganfod cyllell - y credir iddi gael ei defnyddio yn y digwyddiad - a bag.

Maen nhw hefyd wedi gwneud ymholiadau gyda gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ond dydyn nhw ddim yn credu bod Mr McKenna wedi gadael yr ardal.

Cerbydau heddlu ar Heol Picton yng NghaerfyrddinFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Heol Picton brynhawn Iau

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ross Evans fod y llu yn "gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod o hyd i James McKenna".

"Mae ein gwaith wedi bod yn barhaus dros y penwythnos a heddiw.

"Ar ôl prosesu'r lleoliadau cychwynnol sydd o ddiddordeb y tu mewn a thu allan i Barc Caerfyrddin, mae ein hardaloedd chwilio wedi ehangu i gynnwys ardaloedd coediog mawr, glan yr Afon Tywi a lleoedd y gwyddwn iddo fod ynddynt yn aml.

"Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu ei fod wedi defnyddio unrhyw ddull trafnidiaeth i adael yr ardal, ond os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai awgrymu fel arall, rydym yn eu hannog i gysylltu."

'Diolch i'r gymuned'

Dymunodd y ditectif yn dda i'r dioddefwr, gan ddweud ei bod yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion.

"Yn olaf, rydym yn ymwybodol bod ein gwaith wedi arwain at rywfaint o aflonyddwch yn yr ardal leol, a hoffem ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cydweithrediad."

Ychwanegodd ei fod yn "siŵr y gallwch ddeall pa mor ddifrifol y mae digwyddiad fel hwn yn cael ei drin a bydd Timau Plismona Cymdogaeth ac Atal yn parhau yn yr ardal, rhag ofn y bydd angen i chi godi unrhyw faterion".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.