'Ymddygiad ar-lein yn atal pobl rhag ystyried swyddi gwleidyddol'

Mae'n bwysig bod gwleidyddion yn gallu mynegi negeseuon mewn modd cwrtais, meddai Paul Davies
- Cyhoeddwyd
Fe allai ieithwedd gwleidyddiaeth ac ymosodiadau ar gyfryngau cymdeithasol fod yn rhwystro rhai pobl rhag ystyried dod yn wleidyddion ei hunain, yn ôl aelod Ceidwadol o Senedd Cymru.
Wrth siarad ar bodlediad Radio Cymru, Gwleidydda dywedodd Paul Davies - sy'n gyn-arweinydd grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd - ei fod yn credu hefyd ei bod hi'n bwysig i wleidyddion ystyried y math o iaith maen nhw'n ei ddefnyddio.
Awgrymodd fod gan bobl blatfform drwy gyfryngau cymdeithasol i drosglwyddo eu negeseuon yn syth, a bod angen bod yn ofalus gyda hynny.
Ond ychwanegodd bod dadlau ffyrnig yn gallu bod weithiau mewn gwleidyddiaeth, ac nad oes dim byd o'i le ar hynny, ond bod posib bod yn gwrtais ar yr un pryd.
"Chi’n gallu, ar yr un pryd, fod yn gwrtais tra’n bod yn ffyrnig"
Ar y rhifyn diweddaraf o Gwleidydda, dywedodd yr Aelod Senedd dros Breseli Sir Benfro fod natur cyfathrebu ar-lein y dyddiau hyn wedi cael effaith ar ddenu pobl at wleidyddiaeth.
"Dwi'n credu bod cyfryngau cymdeithasol wedi 'neud hynna yn anffodus, 'na beth ni wedi gweld yn yr 20 mlynedd dwi wedi bod mewn gwleidyddiaeth," meddai.
"Wrth gwrs mae pobl yn gallu cael platfform nawr, sdim ots pwy yw'r bobl.
"Mae unigolion yn gallu cael platfform yn syth ac yn gallu cael eu negeseuon nhw mas yn syth ar y cyfryngau cymdeithasol, a felly dwi'n credu dyna beth sydd wedi digwydd yn anffodus."
"Mae yn poeni fi efallai ei fod yn rhwystro pobl i ddod mewn i wleidyddiaeth," ychwanegodd Mr Davies.
"Mae yn bwysig felly bod gwleidyddion i gyd yn defnyddio'r iaith iawn, bod ni'n mynegi'r negeseuon iawn yn gwrtais, oherwydd os na yn ni'n gwneud hynna, dyw pobl ddim yn mynd i ddod i mewn i wleidyddiaeth yn y lle cyntaf.
"Mae'n rhaid i ni sicrhau bod hynna yn digwydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2025
