Cnoc ar y drws un Dolig: Yr ymwelydd wnaeth aros am 45 mlynedd

Rob Parsons
  • Cyhoeddwyd

Ar 23 Rhagfyr, 1975, roedd Rob a Dianne Parsons yn eu tŷ yng Nghaerdydd yn barod i setlo am y noson, pan ddaeth cnoc ar y drws.

Doeddent ddim yn disgwyl ymwelwyr ac felly aeth Rob i agor y drws i weld pwy oedd yno.

"'Nes i agor y drws ac roedd 'na ddyn yn sefyll yn y tywyllwch, gyda'i holl eiddo mewn bag du yn un llaw, a chyw iâr wedi ei rewi yn y llaw arall.

"Roeddwn i'n hanner adnabod ei wyneb e, ac fe ddywedodd e 'fi sydd 'ma, Ronnie'.

"'Nes i ddweud dau air a newidiodd ein bywydau ni am byth; 'tyrd mewn'."

O ganlyniad i'r geiriau hynny bu'r gŵr digartref, Ronnie Lockwood, yn byw gyda Rob a'i deulu am 45 mlynedd.

Y nosweithiau cyntaf

"Fe goginiodd Dianne bryd iddo fe ac arhosodd y noson," esbonia Rob.

"Tynnodd Dianne fi i un ochr a dweud allen ni ddim ei anfon mas i'r stryd y diwrnod cyn Dolig, felly 'naethon ni benderfynu rhoi e yn y stafell sbâr."

Tra roedd Ronnie'n aros yno dros y dyddiau cyntaf fe gofiodd Rob am hanes Ronnie.

"O'n i'n ei hanner cofio fe fel rhywun oedd yn dod i'r Ysgol Sul ble o'n i'n arfer mynd.

"Un diwrnod 'naeth yr athro Ysgol Sul ddweud 'mae 'na fachgen newydd yn dod wythnos nesaf, a does ganddo ddim teulu fel chi, mae'n byw mewn cartref gofal ac dwi isie chi fod yn neis gyda fe...' a Ronnie oedd ei enw fe.

"Roedd e bach yn anghyffredin – y peth cyntaf 'naeth e oedd cuddio handbag Miss Williams, a'r ail beth 'naeth e oedd rhoi fy ffrind Terry mewn headlock!"

Rob ParsonsFfynhonnell y llun, Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Rob gyda'i wraig, Dianne

Gadawodd Ronnie yr Ysgol Sul yn sydyn, gyda'r plant eraill yn ceisio dyfalu ble yr aeth.

"Un diwrnod pan oedd e'n 11 fe ddiflannodd Ronnie. Dim ond tra'n gwneud ymchwil ar gyfer fy llyfr [A Knock at the Door] 'nes i ddarganfod beth ddigwyddodd iddo fe.

"'Naethon nhw anfon Ronnie i ysgol 200 milltir i ffwrdd, a oedd yn cael ei ddisgrifio fel ysgol i fechgyn 'sub-normal', a oedd yn warthus o ddisgrifiad.

"Doedd gan Ronnie ddim gweithwyr cymdeithasol yn agos, na theulu neu ffrindiau chwaith.

"Pan adawodd Ronnie'r ysgol doedd e ddim yn y system gofal o gwbl ac felly roedd e'n byw ar y stryd. Rai blynyddoedd wedi iddo adael yr ysgol cafodd y sefydliad ei gau, gyda thri o'r gofalwyr yn cael eu carcharu am gam-drin plant yn rhywiol.

"Gan amlaf mae gofalwyr cymdeithasol yn gwneud gwaith anhygoel, ond mae'n gallu bod yn anodd ofnadwy ar y plant, yn enwedig yn y cyfnod pan yr oedd Ronnie'n blentyn. Yn anffodus does gen i ddim amheuaeth y cafodd e ei gam-drin hefyd."

Cadair yn erbyn y drws

Yn ystod nosweithiau cyntaf Ronnie yn y tŷ roedd Rob a Dianne ychydig yn nerfus.

"Roedden ni mewn tŷ tair stafell, gyda'r stafell sbâr drws nesaf i ble roedd Dianne a fi'n cysgu", medd Rob.

"Ar y noson gyntaf fe drodd Dianne ata i a gofyn 'beth os mae e'n gwneud rhywbeth?!' 'Fel beth?' gofynnais i yn ôl... gofynnodd Dianne i fi nôl cadair o'r gegin a'i roi dan handlen drws ein stafell.

"Y gwir ydy oedd e'n berson agored tu hwnt - cawson ni erioed achos i boeni gyda fe, a doedd y gadair ddim yn erbyn yr handlen byth eto."

Rob a'r teuluFfynhonnell y llun, Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Rob, gyda'i fab Lloyd ar ei ysgwyddau, a'u merch Katie, Dianne, a Ronnie tu ôl iddynt

'Natur annwyl'

"Roedd ganddo natur annwyl," meddai Rob, "ond roedd lot o niwed wedi bod yn ei fywyd hefyd. Y pethau fyddai e'n dweud o hyd oedd 'ydw i wedi gwneud rhywbeth drwg?' a 'dwi'n rubbish' - pethau roedd e wedi ei ddysgu o'r cartref ofnadwy 'na.

"Pan o'n i'n gofyn iddo fe i ba ysgol a'th e, bydde'n dweud 'the backwards school'."

Er y rhinweddau annwyl, roedd gan Ronnie ei heriau, fel esbonia Rob.

"Roedd e'n gamblo lot, ac roedd rhaid i ni weithio drwy hynny.

"Fe drïodd e yrru, ond dwi'n meddwl fethodd e ei brawf saith gwaith... falle peth da iddo fethu i ddweud gwir - siŵr fod Caerdydd yn saffach lle o ganlyniad!"

RonnieFfynhonnell y llun, Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Ronnie'n cael ei wobrwyo am ei waith elusennol

Un peth sy'n gwneud stori Ronnie a Rob yn anghyffredin yw bod y ddau yn oedolion pan symudodd Ronnie i mewn.

"Roedd e ryw ddwy neu dair blynedd yn hŷn na fi. I fod yn onest os byddai e 'di bod yn fachgen yn ei arddegau byddai wedi bod yn anoddach.

"Dim ond tua 30 oedd Ronnie pan gnociodd y drws, ond roedd e wedi blino, a beth dwi'n feddwl o hyn yw oedd bywyd wedi bod yn galed iddo, yn cael ei basio o un lle i'r llall.

"Doedd e ddim am wneud trwbl neu achosi anawsterau i neb, a dro ar ôl tro oedd e'n dweud 'ydw i wedi ypsetio chi?'"

Effaith ar y plant

Felly, sut argraff y gwnaeth Ronnie ar blant Rob - Katie a Lloyd?

"Y cwestiwn dyle ni ofyn yw 'sut argraff wnaeth Katie a Lloyd ar Ronnie?' achos fe oedd yn y tŷ'n gyntaf.

"Mae'r plant ond yn gwybod am fywyd gyda Ronnie, fel maent ond yn gwybod am fywyd gyda fi a Dianne. Ac yna 'naethon nhw adael a chael plant eu hunain, ac roedd Ronnie dal yn y tŷ.

"'Naeth rywun ofyn i Katie yn ddiweddar os oedden nhw'n ei 'nabod e fel 'Uncle Ronnie', a dywedodd hi 'na, jest Ronnie oedd e'.

"Roedd 'na adeg ryfeddol pan, ar ôl genedigaeth Lloyd, roedd Dianne yn sâl gyda ME a methu dod mas o'r gwely. Ond fe helpodd Ronnie – gwneud poteli i'r babi, edrych ar ôl Katie a glanhau'r tŷ."

Ronnie a RobFfynhonnell y llun, Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Rob, Lloyd a Ronnie

"'Naethon ni ddod i bwynt, ar ôl iddo fod gyda ni am dipyn, oedd fy merch i tua 10 ac o'dd gennyn ni ond yr un ystafell 'molchi. Dwedodd Dianne wrtha i 'dwi'n meddwl bod e'n amser i Ronnie ffeindio'i le ei hun, ond fe fydd e dal yn rhan o'r teulu'.

"Roedd hwnnw'n sgwrs anodd, ond yn y diwedd es i fyny i'w stafell wely e ac o'n i ar fin dweud wrtho fe, a dyma Dianne yn rhedeg fewn a gofyn 'wyt ti wedi?' a 'nes i ddweud 'na'. Cymerodd Dianne fi nôl lawr grisiau a byrstio i'w dagrau gan ddweud 'allwn ni ddim!'

"Dwi ddim yn siŵr os oedd Ronnie wedi clywed ni'n siarad neu os oedd e wedi datblygu rhyw sensitifrwydd ar ôl cael ei basio o gwmpas pan yn blentyn, ond fe ofynnodd i fi un noson 'ry'n ni'n ffrindiau yn dydyn? A ry'n ni am fod gyda'n gilydd am byth?'

"'Yndyn, Ronnie,' dywedais yn ôl, 'byddwn ni gyda'n gilydd am byth'."

Marwolaeth Ronnie

Bu farw Ronnie yn 2020, yn ystod cyfnod clo Covid-19, yn 75 mlwydd oed.

"O'n i yn fy study lawr grisiau pan gefais i alwad ar fy ffôn symudol gan Ronnie, yn dweud ei fod wedi disgyn ac yn methu codi. Roedd e wedi cael strôc a doedden ni ddim yn cael mynd i'r ysbyty gyda fe oherwydd y rheolau Covid.

"Beth oedd yn drist oedd am ei fod ddim wedi cael diagnosis swyddogol o anabledd, doedd y tîm anabledd yn yr ysbyty ddim yn gallu caniatáu ni gael yr hawl i ymweld, ac roedd hynny'n anodd iawn."

Ronnie a RobFfynhonnell y llun, Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Ronnie a Rob

Tua 2016 fe benderfynodd Rob bod hi'n bwysig i Ronnie gael gwybod yn iawn faint o feddwl yr oedd gan bawb ohono.

"'Nes i ddweud wrth Dianne rhyw dair neu bedair blynedd cyn i Ronnie farw, mod i ddim yn siŵr os oedd unrhyw un erioed wedi dweud wrtho fe bod nhw'n ei garu e. Felly, 'nes i ddechrau dweud wrtho cyn iddo fynd i'r gwely bob nos 'caru ti Ronnie' - a bydda fe'n mymblo fe'n ôl.

"Wrth iddo fynd i'r ambiwlans wedi'r strôc 'nes i weiddi 'caru ti Ronnie', a 'naeth e weiddi 'caru ti Rob' yn ôl.

"Dwi'n difaru na wnaethon ni ddechrau dweud hynny wrtho 40 mlynedd cyn iddo farw yn hytrach na phedair blynedd.

"'Nes i ddysgu y dylen ni fod yn onest am ein teimladau, a dweud wrth y rhai sy'n agos i ni ein bod ni'n eu caru nhw. Weithiau mae'n anodd dweud, ond rwy' mor falch wnes i gyda Ronnie - roedd e'n bwysig iddo fe."

Fe gafodd Rob a Dianne ymweld â'u cyfaill yn ei oriau olaf, a fu farw Ronnie ym mreichiau Rob, tra roedd Dianne yn canu iddo.

Davina a RobFfynhonnell y llun, Begin Again with Davina McCall
Disgrifiad o’r llun,

Yn sgwrsio gyda Davina McCall ar bodlediad diweddar

Ffilm ar y gorwel?

Ers iddo gyhoeddi'r llyfr A Knock at the Door, sy'n adrodd yr holl hanes, mae Rob wedi gwneud llawer o ymddangosiadau yn y wasg, gan gynnwys podlediad Davina McCall, ble roedd y ddau yn eu dagrau.

Mae cwmni cynhyrchu hefyd wedi cysylltu â Rob ynglŷn â'r posibilrwydd o wneud ffilm, ac mae'r trafodaethau'n digwydd ar hyn o bryd.

Mae'r holl elw o'r llyfr yn mynd i elusen, a dywedai Rob y bydd yr elw o unrhyw ffilm hefyd yn mynd i achosion da.

"Mae Dianne yn poeni pwy fydd yn ei chwarae hi mewn ffilm," meddai Rob gan wenu.

A beth am ran Ronnie? "Bydda fe [Ronnie] wedi bod wrth ei fodd yn gweld George Clooney yn cymryd y rôl!"

Rob, Dianne a RonnieFfynhonnell y llun, Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Y teulu oll; Rob, Dianne, Ronnie, Katie, Lloyd a'u partneriaid a phlant

'Gall ddigwydd i unrhyw un'

Felly, beth mae Rob wedi dysgu o'i berthynas â Ronnie?

"Pan ry'n ni'n gweld person digartref rydyn ni'n aml yn meddwl gall hynny byth ddigwydd i ni, ond rwy' 'di dysgu y gall e ddigwydd i unrhyw un ohonom ni. Weithiau mae bywyd yn hitio ni'n galed o wahanol gyfeiriadau.

"Roedd Ronnie'n hynod o ffeind, yn helpu pobl yr ardal i gyd ac fe adawodd ei arian i gyd i elusennau."

Roedd Ronnie wedi gweithio yn casglu sbwriel a llnau strydoedd Caerdydd am 30 mlynedd, ac roedd hefyd yn golchi llestri mewn ceginau cartrefi gofal.

Rhwng yr arian roedd wedi ei gasglu, ei bensiwn gwladol a'i un personol, roedd ganddo £40,000 yn y banc pan fu farw, ac aeth y cwbl i achosion da.

Yn 2023 fe agorodd Mark Drakeford Ganolfan Lockwood yn ardal Llanedeyrn o Gaerdydd, sy'n ganolfan lles i gynnig cymorth i bobl yn y gymuned.

Rob a DianneFfynhonnell y llun, Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Rob a Dianne a'r ganolfan gafodd ei henwi ar ôl Ronnie. Mae'r ganolfan drws nesaf i Eglwys Glenwood yn ardal Llanedern o Gaerdydd

Gydag eleni yn nodi hanner canrif ers dechrau'r berthynas arbennig rhwng Ronnie a'r teulu Parsons, a fyddai Rob yn ateb y drws a chymryd rhywun i mewn eto?

"Bydden ni'n gwneud e i gyd eto, heb os. Roedd 'na adegau anodd, ac roedd lot o'r baich yn disgyn ar Dianne.

"Ond rwy'n disgrifio Ronnie fel hyn; pan ddaeth e atom ni roedd e'n lojar, wedyn yn ffrind, ac yna fe oedd y brawd ges i fyth, ac roedd Ronnie'n caru chwarae'r rôl yna."

Rob Parsons
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rob Parsons ei anrhydeddu gyda OBE yn 2012 am ei waith gyda elusennau

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig