Tân angheuol mewn tŷ Nos Galan yn un 'damweiniol'

Cafodd y gwasanaethau eu galw i eiddo ym mhentref Glenboi ar gyrion Aberpennar, ychydig cyn 02:15 fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae tân lle y cafodd corff ei ganfod wedi cael ei ddisgrifio gan y gwasanaethau brys fel un damweiniol.
Cafodd y gwasanaethau eu galw i eiddo ym mhentref Glenboi ar gyrion Aberpennar, ychydig cyn 02:15 fore Mercher.
Achosodd y tân ddifrod sylweddol wrth i rannau o'r adeilad ddymchwel.
Nid ydy'r person a fu farw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma.
Penderfynwyd mai damweiniol oedd achos y tân, yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu'r De a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Fe wnaeth y llu a'r gwasanaeth tân ddweud eu bod yn meddwl am "y teulu a'r gymuned yn ystod yr amser heriol hwn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2025
