Canfod corff mewn tŷ yn dilyn tân ger Aberpennar

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentref Glenboi ychydig cyn 02:15 fore Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae corff wedi ei ganfod mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn tân yn yr eiddo yn gynnar fore Mercher.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i bentref Glenboi, ar gyrion Aberpennar, ychydig tua 01:40.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru mae'r tân wedi achosi difrod sylweddol, gyda rhannau o'r adeilad wedi'i dymchwel.
Fe gadarnhaodd Heddlu De Cymru mewn datganiad bod "unigolyn wedi'i ganfod yn farw" yn y tŷ.

Cerbydau'r gwasanaethau brys ger safle'r tân ym mhentref Glenboi ddydd Mercher
Mae diffoddwyr tân a thimau arbenigol yn dal ar y safle fel rhan o ymchwiliad yr heddlu a'r gwasanaeth tân, gyda chymorth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd yr heddlu bod disgwyl i'r ffordd fod ar gau parhau ar gau "am gryn amser" wrth i ymholiadau barhau.
Ychwanegodd llefarydd bod y llu'n cydymdeimlo â theulu'r unigolyn a'r gymuned "yn ystod y cyfnod anodd hwn".

Mae disgwyl i'r ffordd ym mhentref Glenboi fod ar gau 'am gryn amser' tra bod ymholiadau'r gwasanaethau brys yn parhau
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.